canys yr oedd y "gair" yn dweyd. Mai "seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn." Mynai y Calfin fod hyny yn amhosibl. Yr oedd yn fwy cyfleus iddo ef i gredu mewn "rhad ras" na gweithredoedd. Bu dadleu a beirniadu pwysig ar Hwfa Mon ar ol yr oedfa hono. Ond cytunai pawb Ei Fod yn Ddyn ar ei Ben ei Hun.
Gwrandewais lawer arno wedi hyny, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn enwedig y blynyddoedd y bu yn gweinidogaethu yn Mon., Nid oedd odid bregethwr a elwid yn amlach i gymeryd rhan yn uchelwyliau ei enwad. Ac fel pob pregethwr, yr ydoedd weithiau yn uwch ac weithiau yn is. "Nid oes yr un cloc" fel y dywedai "Ap Vychan" "yn taro deuddeg bob tro." Cafodd lawer o oedfaon nerthol ac effeithiol, a rhai o honynt yn ysgubol. Clywais yr hen bobl o'r lle hwn, yn son llawer am oedfa a gafodd yma, ar foreu Sabbath, flynyddoedd lawer yn ol, pryd y pregethai ar weddi ddirgel. Dywedir iddi dori allan yn orfoledd mawr ar ganol yr oedfa. Gallaf nodi rhai o'r testynau y clywais ef yn cael oedfaon nerthol wrth bregethu arnynt, megis y drydedd Salm ar hugain. Byddaf fel gwlith i Israel &c." "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion &c," Minau nesau at Dduw sydd dda i mi &c." a "Ffydd, gobaith, cariad."
Pregethai yn Nghymanfa Mon a gynhelid yn Amlwch, haf y flwyddyn 1874, a chyda llaw, gallaf grybwyll mai efe oedd yr olaf a symudwyd o'r chwech a bregethai yn y Gymanfa hono, Sef y Parchn R. Thomas (Ap Vychan) J. Thomas D.D., Herber Evans, R. S. Williams, Bethesda, a J. T. Evans, Caerfyrddin.
Yr oedd Hwfa Mon yn pregethu am Saith foreu yr ail ddydd. Rhoddwyd ef i bregethu ar yr awr hono fel y caffai yr amser i gyd. iddo ei hunan, a hefyd er mwyn sicrhau cynulleidfa dda. Ac yr oedd y capel eang yn llawn. Sylwasom fod yno amryw wedi dyfod ar awr mor foreu, o mor bell a Llanerchymedd.
Y drydedd Salm ar hugain oedd ei destyn, y boreu hwnw. Cof