iaith gymraeg. Cai y gwefusolion, y deintolion, y cegolion, a'r gorchfantolion yr un chwareu teg. Pleser fuasai ei glywed yn adrodd englyn tebyg i'r un canlynol:—
Chwychwi a'ch âch o'ch achau—o'chewch chwi
O'ch uwch—uwch achychau,
Ewch ewch, iachewch eich ochau.
Iach wychach, ewch o'ch iachäu."
Neu yr un canlynol o'i waith ei hun—
"Ei geurog bleth gyhyrau—a redent
Yn gyfrodawg ffurfiau;
Gwreiddient drwy'r rychiog ruddiau,—a'i wrymiawg
Aeliau esgyrniawg, a'i grychlaes gernau."
Yr oedd yr anhebgorion a enwyd, a'i safle fel un o brif ddynion y genedl, wedi ei wneud ers blynyddau, yn un o ddarlithwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Nid oedd yn meddu ar allu dihafal "Hiraethog" i ddynwared, ond gallu i ddisgrifio, a darlunio mewn geiriau. Os na chai efe eiriau i ateb ei bwrpas mewn geiriaduron bathau eiriau o'i eiddo ei hun. Byddent weithiau yn fyrion ac yn grynion fel marbles, brydiau eraill byddent yn llarpiau hirion, heglog, a chymalog; a mawr hoffai chwareu ar rai o honynt yn ol a blaen, ac yn mlaen ac yn ol; a mynych y cynghaneddai frawddegau tlysion yn unig wrth chwareu à geiriau. Dadgymalau hwynt sill a'r ol sill, a chymal a'r ol cymal, ac yna dodau hwynt yn ol eilwaith, a'u dwyn allan yn eu llawn hydau, nes gogleisio yr holl gynulleidfa. Os deuai beirniad cul a sychlyd i'w wrando, tebyg i'r proof yn erbyn chwerthin mewn capel, y clywais "Kilsby" yn dyweud ei gyfarfod yn Merthyr, byddai math hwnw yn bur debyg o gael ei gonero gan hyawdledd a medr "Hwfa,"—yn neillduol pan y taranai allan ambell air, na chlywodd neb ei fath ond ganddo ef. Bu yn nodedig o ffodus yn newisiad ei faterion hefyd,—testynau a digon o le i'w athrylith amrywiog i chwareu, ac hefyd o duedd i gynhyrfu talentau cuddiedig, ac enyn uchelgais iachus mewn dynion