ieuainc,—sef. "Y Dyn Ieuanc"; "Coron Bywyd"; "Meibion Llafur"; "Barddoniaeth"; "Gwilym Hiraethog"; a Gwilym Hiraethog"; a "Thros y Don." Mae mwy na deng mlynedd a'r hugain er pan glywais y ddwy gyntaf ond erys eu hargraph, ac yn neillduol, argraph o bersonoliaeth Hwfa" ei hun, yn fyw iawn ar fy meddwl.
Wele, "Hwfa" yn codi ar y llwyfan,—mae'n baladr o ddyn tua dwy lath o hyd, ysgwyddau a brest lydan, a'r dyn oddiallan wedi ei wisgo mewn superfine cloth o'r math oreu, ac wedi ei ffitio yn dda, y gôt wedi ei botymu yn dyn, ei wallt wedi ei gribo yn ol ac yn disgyn i lawr dros ei wâr,—ei wyneb wedi bod o dan oruchwyliaeth yr eilliwr mor fanwl, fel nad oes cymaint a brigyn na bonun gwelltyn wedi ei adael arno,—ei goler, a'i wddf—dorch yn ganaid fel eira, ond nid yn hir y pery pethau yn ei hystad wreiddiol. Fel y mae y darlithydd yn myned yn mlaen bydd clustiau y goler wedi disgyn yn llipa y naill a'r ol y llall, fel pe na fuasai starch yn adnabyddus iddynt, a'r gwallt yntau wedi chwareu hafoc ers meityn drwy chwenych y blaen.
Fodd bynag golwg urddasol a thywysogaidd oedd arno, yn peri i chwi deimlo fod" meistr y gynulleidfa" yn sefyll o'ch blaen. Wedi cyfarch y Cadeirydd mewn dull nodweddiadol o hono ei hun; dechreuodd drwy enwi y testyn Y Dyn Ieuane." Dechreuodd drwy fwrw golwg ar Ddyn yn ei greadigaeth.
"Y dyn, y dyn dianaf.
Oedd lawn urdd ar ddelw Nâf."
Y gwahaniaeth rhwng y dyn cyntaf wedi ei greu yn ei gyflawn faint, a dyn yn cael ei eni,—y drafferth i'w ddysgu,—i'w ddysgu i sugno, a'r drafferth fwy na hyny i'w ddysgu i beidio sugno,—a bod ambell un heb ei ddiddyfnu yn haner cant! Yna daeth at "Y Dyn Ieuanc"—gyntaf yn ei gartref—dylanwad cartref ar ddyn ieuanc— yn cael ei ddarlunio gan Cawrdaf yn "Hiraeth Cymro am ei wlad."
Fod dylanwad cartref yn aros ar ddyn wedi myn'd yn hen.
Darluniodd hyn drwy adrodd yn dyner odiaeth yr "Evening Bells" gan Thomas Moore.