"Hiraethog" yn dyweud y byddai yr hen bobl yno yn eu hadrodd mewn cyfeillachau, yn hollol ddifeddwl, fel pe buasent wedi myned i mewn i'w natur. Cafwyd wedy'n ei gynyrchion barddonol cyntaf—enill y gamp yn eisteddfod Aberhonddu am y Cywydd ar "Farwolaeth Nelson "—ymwasgu at yr Annibynwyr—dechreu pregethu—yr "Alwad" o Heol Mostyn, yn symud yno. Gwnaeth i ni gydgerdded ag ef o'r tu ol i'r wagen a'i chlud, a Mrs. Rees a'r plant. Yna parattowyd i gychwyn o Fostyn i gymanfa Llanerchymedd, yn genad yn lle y Parch. D. Jones, Treffynon, a gwisg o frethyn cartref am dano, clôs penglin, het fawr feddal o frethyn ffeltiwr, ac esgidiau cryfion o ledr da—gwaith crydd gwlad,—cefnau isel a chareiau lledr yn clymu y ddwy glust ar gefn ei droed.
Wedi cyrhaedd dros y milldiroedd meithion i'r gynhadledd, a thraethu ei neges—arweiniwyd ef i dy Mr. William Aubrey, lle yr oedd i aros. Caledfryn oedd y gweinidog ar y pryd, ac ar gais y teulu wedi addaw iddynt un o wyr blaenaf y gymanfa. Ystyriai y teulu hwn ei hunain yn mhell o flaen eu cymydogion mewn diwylliant a moesau. Yr oedd y tad a'r plant wedi arfer talu tipyn o sylw i lenyddiaeth, yn neillduol y plant—i lenyddiaeth saesnig. Pan ddaeth Miss Aubrey i'r drws, cymerodd mai hen flaenor gwledig oedd "Hiraethog,— oddiwrth ei ddiwyg, a'r olwg deneu a henaidd oedd arno—diflasodd drwyddi—ac aeth ág ef i'r gegin, fel lle difai i'w fath; a mynegodd i'w thad, fod Caledfryn wedi anfon hen flaenor o ffermwr yno, yn lle, fel yr addawsai, un o brif bregethwyr y gymanfa.
Diflasodd hwnw ac ni fynai fyn'd i siarad âg ef; ond rhag bod yn anfoesgar, gan mai nid bai y gwr dieithr oedd dyfod attynt, aeth ato ar ei ffordd i'w wely, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le, a'r plant yn gwrando. "O ba le yr ydych chwi yn dyfod, yr hen wr?" "O Lansanan, ond o Fostyn y dois i yma." Llansanan!" "Lle y mae hwnw?" "Yn agos i Ddinbych." "Sut fu i chwi ddyfod mor bell oddi cartref?" "Cael fy anfon yma ddarfu i mi gan, Mr. Jones, Treffynon." "Wel does i chwi ond gwneud eich hun mor gysurus ag y medroch chwi, gan eich bod chwi wedi dyfod. Y