mae yn amser i mi fyned i'r gwely, nos dawch." "Wel, nos dawch."
Wedi i'r tad fyned, meddyliodd y mab am Lansanan, a gofynodd i'r hen wr, Ydych chwi yn gwybod rhywbeth am "Gwilym Hiraethog" sydd yn Llansanan?" "Gwn rywbeth." Hwyrach mai chwi ydyw o?" "Wel, y maent yn dey'd hyny." Trodd y brawd at ei chwaer, a dywedodd yn saesoneg, rhag i'r hen wr ddeall, tebyg. "He is one of the best poets in Wales!" "Indeed!" "Yes, he is." Deallai wrth gwrs bob gair, a theimlai fod ei awyrgylch ychydig yn oleuach yno. Ymaith ar ferch a'r newydd i'w thad. "Do you know, father, who is the old blaenor after all?" He is "Gwilym Hiraethog," who gained the prize for the Cywydd on the 'Death of Nelson' at Brecon eisteddfod, and the prize for the Cywydd. on the Gorlifiad of Cantre' gwaelod, at Denbigh."
Er hyn oll, un o brif bregethwyr y gymanfa oedd ef yn ddisgwyl, ac nid oedd eto o lawer yn foddlawn.
Ar frecwest dranoeth dywedai—Yr ydwyf yn deall mai chwi ydyw "GWILYM HIRAETHOG," y mae yn dda genyf gael eich cymdeithas, wyddwn I yn y byd pwy oeddych chwi neithiwr, onide buasai yn dda genyf gael ychydig ragor o'ch cymdeithas. Wyddoch chwi ddim pwy sydd i bregethu y boreu yma?" "Y mae Mr. Williams yn dyweud y rhaid i mi wneud yn un" "Y chwi!" "Ie, meddai fo." Ond er mai "Gwilym Hiraethog" oedd o, nid oedd Mr. A. yn credu mai efe oedd y dyn i bregethu yn mhrif oedfa y gymanfa.
Gadawyd i Hiraethog gerdded wrtho ei hun i'r cae, a Mr A. a'r teulu yn dilyn o'i ol. Aethant hwy i gerbyd gyferbyn a'r llwyfan, a theimlent yn ddig, ac aflonydd i feddwl dodi yr "hen flaenor" i bregethu yn yr oedfa hono. Fodd bynag, wedi i Mr Lloyd, Llanelwy, bregethu yn dda, ac yn sylweddol—dacw yr hen flaenor at yr astell, a chawodydd o feirniadaeth o gerbyd Mr A. yn cael eu tywallt. Darllenodd y pregethwr ei destyn yn wahanol i arfersef ar dop ei lais. Y galon sydd yn fwy ei thwyll na dim, drwg