diobaith ydyw pwy a'i hedwyn?" Dechreuodd gydio—ymwasgai y bobl at y llwyfan, clywir ocheneidiau, gwelir dagrau yn gawodydd, gwenant, wylant, a diolchant: mae teulu y cerbyd wedi eu trawsnewid —wedi ymgolli—a dywedent wrth bawb o'u cylch. "Acw, gyda ni, y mae o yn aros." Torodd y cwmwl, a chafwyd oedfa byth i'w chofio. Brysiai Aubrey at risiau y llwyfan i dderbyn y pregethwr i lawr, breichai ef, er mwyn i bawb gael gwybod mai gydag ef y mae prif bregethwr y gymanfa yn aros—Cafwyd ciniaw yn y parlwr. Ond nid oedd ganddo (Hiraethog) ddim amser i'w golli, am ei bod yn ddydd gwener, a'i fod gartref y sul.
Teimlai Mr. A. fod yr esgidiâu oedd am ei draed yn rhy drymion iddo gerdded ffordd mor bell, ac anrhegodd ef â phar o esgidiau a wnaethid i hen Ustus Heddwch o'r gymdogaeth, a phrif elyn y gymanfa; ac felly cafodd y gwr a ddaethai yno i anrhydeddu y gymanfa, fyned ymaith yn esgidiau y gwr a fynai ei dirmygu!
Buwyd wedy'n gyda'r urddiad yn Mostyn—y weinidogaeth ysgubol wedi hyny yn Nhinbych a Liverpool—ac yr oedd yr awrlais wedi pasio deg, a therfynwyd wedi tair awr o siarad, heb i ni gael ond ychydig o deithi athrylith y gwron.
Teimlwn ar pryd fod digon o adnoddau yn y gwrthrych i'r darlithydd i allu rhoddi i ni ddarlith o ddwy awr bob nos trwy yr wythnos hono, a buasai yn werth talu swllt bob tro. Wedi dechreu nos lun mor ddifyr gydai hanes yn dringo drwy anhawsderau i binacl enwogrwydd cenhadlaethol. Cael darlith nos fawrth arno, fel Pregethwr; nos fercher, fel Bardd; nos Iau, fel Darlithydd, nos Wener, fel Llenor, a nos Sadwrn, fel Gwleidyddwr. Buasem wedyn wedi cael "Gwilym Hiraethog" yn adnoddau gor—gyfoethog ei athrylith ryfeddol. Gwnaeth "Hwfa" ddwy ddarlith arno ar ol hyn—a digwyddodd y tro ysmala a ganlyn gyda hwy. Dywedai y doniol Barch Isaac Jones (W) ei gymydog yn Llangollen, yn nhŷ ein câr y Parch. D. Williams (B) yno——iddo glywed i "Hwfa" ddarlithio am bedair awr yn y Rhyl!! Ceisiai "Hwfa" ddyweud mai tair awr a haner a fu y noson hono; ond sicrhai ei hen ffrind, iddo fod bedair awr!