Dymunodd y bobl, drwy y Cadeirydd ei bod i gael y ddwy gyda'u gilydd. A hawdd y credwn mai Mr. Jones oedd yn iawn, am yr amser. Yn yr ail ddarlith hon, yr oedd ganddo lawer o sylwadau miniog yn gystal a chwareus. Soniai am y drafferth a gaffai "Hiraethog gyda'r Amserau," ac yn neillduol, gyda J. Jones, y Cyhoeddydd,— dywedai "Hwfa," fod ysbryd y gwr hwn mor sur, a golwg mor sur arno, fel na fuasai raid iddo ond taro pen ei drwyn yn afon Lerpwl, na fuasai yn ei throi yn finegar bob dafn o honi!
Daeth y darlithydd o hyd i stori colli y crys, a chafwyd hwyl ryfeddol. Fel hyn y bu, pan oedd Hiraethog," yn byw yn Devon Street, Liverpool, digwyddodd ei hen gyfaill Mr. Pugh, Mostyn, un tro fod ar ymweliad âg ef a phan oedd y ddau yn ddifyr gyda'u gilydd yn y llyfrgell, daeth Mrs. Rees i mewn yn gyffrous, a dywedodd fod rhyw ddynion drwg o grwydriaid wedi dwyn ei grysan oedd ganddi allan ar y line yn sychu yn y buarth!"Yn enw yr anwyl," meddai yntau. Chwarddodd Mr. Pugh, a dywedodd, Wel yn wir; mi gollodd ei grefydd i gyd pan gollodd o sypyn o'i lyfr ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig gynt yn Ninbych; ac mi gollodd ei ragluniaeth pan gollodd o sypyn o'i lyfr ar Providence and Prophesy, wrth fyned gyd a'r trên; a dyma fo erbyn hyn wedi colli ei grys! Does ganddo 'rwan, na chrefydd, na rhagluniaeth, na chrys. Mi ddywedaf i chwi, Mrs. Rees, beth a wnewch. Y tro nesaf y byddwch yn golchi, crogwch o ei hun ar y line a'i grysau am dano i sychu, dyna'r unig ffordd i chwi." Ymollyngwyd i chwerthin, a phwy allai lai! Rhaid, a disgwylir mewn darlith gael cryn dipyn o snuff, fel hyn. "Dros y Dòn" Buasai Taith i America yn rhy ystradebol o eiriad i fardd o fath"Hwfa," ond ceid barddoniaeth yn y geiriad cryno a chrwn hwn. Er hyn gwnaeth, hen frawd gwledig y cam—gymeriad a ganlyn yn y gymydogaeth hon, wrth gyhoeddi y ddarlith ar nos Sabath— "Nos yfory yn nghapel y Priordy, Caerfyrddin, bydd Hwfa Môn yn myn'd dros y dôn, dechreua am saith o'r gloch." Gwyddai pawb a wyddai ddim am yr Archdderwydd nad oedd efe fedrus yn y cyfeiriad hwnw, ac na fuasai yn werth talu swllt am ei glywed yn yn