dyweud y rhaid dychwelyd i'r "Hen wlad." Y peth oedd yn ogleisiol oedd, fod way a eisteddai y tu cefn i'r awrlais, wedi gosod atalfa ar ei diciadau yn fuan ar ol wyth, ac yr oedd yn awr yn nghymydogaeth y deg! Dychwelwyd heb nn ddamwain, wedi teithio ugain mîl a haner o filldiroedd ac heb fethu un cyhoeddiad! Nid rhyfedd, pan laniodd yn Llynlleifiaid, iddo daro ei droed gyda diolchgarwch ar "Terra Ferma" i waeddi "DAEAR, daear Prydain Fawr, daear fy ngwlad dan fy nhraed." Ac wrth ddiweddu y ddarlith tarawai ei droed ar fyrddau yr esgynlawr, nes dirgrynu yr holl adeilad!
Yr wyf yn ddyledus i'm câr y Parch. D. Williams, Llangollen, hen gymydog i "Hwfa" am flynyddoedd, am yr hanes difyr a ganlyn ynglyn a'r ddarlith hon, a phethau gwerthfawr eraill. Traddodai "Hwfa" y ddarlith "Dros y Dòn," yn Bootle. Cadeirid gan y gwr hoffus y Parch. Griffith Ellis, M.A., gwr gwir alluog fel y gwyr pawb. Yn ei anerchiad ar y dechreu, dywedoedd y cadeirydd parchus mewn tipyn o ysmaldod-ei fod yntau wedi bod am daith i America, a chyfeiriodd at y Parch. J. H. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, yn Bootle, ac meddai, "Mae fy nghymydog y Parch. J. H. Hughes yr un modd a minau wedi bod am daith yn yr un wlad, ac yr ydym wedi dyfod yma ein dau fel Detectives i weled fod yr "Archdderwydd" yn dyweud yn gywir am America." Penderfynodd "Hwfa" ar unwaith droi y tipyn bach ysmaldod hwn i gyfrif da. Wedi ei alw gan y Cadeirydd, dechreuodd trwy ddyweud-"Meistr Detective," ar hyn torodd y bobl allan mewn chwerthin ac meddai yntau drachefn, "Meistr Detective, yr ydwyf wedi dyfod yma i ddyweud, nid yr hyn a glywodd y clustiau hyn (gan gyfeirio at ddwy glust y Cadeirydd), yn America, ond yr ydwyf fi yma Meistr Detective, i ddyweud yr hyn a glywodd y clustiau hyn (gan gyfeirio at ei glustiau ei hun) yn America. Meistr Detective; yr ydwyf fi yma i ddyweud, nid yr hyn a welodd y llygaid hyn (gan gyfeirio at lygaid y Cadeirydd), yn America, ond yr hyn a welodd y llygaid hyn (gan gyfeirio at ei lygaid ei hun), yn America. Meistr Detective,