yn mysg y dorf yr eisteddai y tro nesaf y byddai yn gadeirydd—fod barddoniaeth neu rhywbeth rhyfedd iawn wedi ymaflyd yn ngwraidd ei wallt, ac nas gallai ddisgwyl tawelwch nes myned adref, o leiaf. A diau iddo fyned wedi ychwanegu rhai cufyddau at ei ddoethineb yn y cyfeiriad o feirniad Barddoniaeth.
Diau y ceir darlithau ar "Hwfa," ond ni cheir byth ddarlithydd
fel "Hwfa." Ei ail ni ellir. Nid oes odid dref nac ardal yn
Nghymru na chlybuwyd ef yn y cymeriad hwn, a manteisiodd
llawer achos gwan, yn arianol, a phersonau anffodus, ac yn
neillduol, ddynion ieuanc a'u hwyneb ar y weinidogaeth oddiwrth ei
ddarlithiau, heblaw y gwleddoedd meddyliol cyfoethog a fwynhawyd
wrth eu gwrando. Gyda phriodoldeb y gellir, wrth derfynu hyn o
lith, gymhwyso ato y geiriau canlynol o eiddo Martin F. Tupper:—
{{center block|
<poem>
That glorious burst of winged words! how bound they from his tongue!
The full expression of the mighty thought, the strong triumphant argument,
The rush of native eloquence, resistless as Niagara,
The keen demand, the clear reply, the fine poetic image,
The nice analogy, the clenching fact, the metaphor bold and free.
The grasp of concentrated intellect wielding the omnipotence of truth,
The grandeur of his speech in his majesty of mind!"