Gwirwyd y dudalen hon
Pennod X.
FEL CYFAILL.
GAN Y PARCH. HENRY REES, BRYNGWRAN.
Y MAE yn debyg y gosodwyd arnaf fi i ysgrifenu am Hwfa Mon fel cyfaill am y tybir fy mod yn un o'i gyfeillion agosaf; ac felly yr oeddwn. Tybygaf nad oes yn fyw heddyw, ond dau neu dri, a fuont mewn cyfeillach mor hir ac agos ag ef ag y bum i. Dechreuodd ein cyfeillgarwch ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, a pharhaodd a chynyddodd yn fwy fwy hyd nes yr ataliwyd gan ei farwolaeth: ac i mi, y mae y byd yn wacach ac yn oerach o lawer ar ol ei golli. Cydnebydd pawb fod Hwfa Mon yn un o'r cymeriadau mwyaf unigol a dyddorol a feddai Cymru. Yr oedd ynddo neillduolion a'i gosodent ar ei ben ei hun—heb fod neb yn gyffelyb iddo—ac a effeithient er tynu sylw ato ac enyn dyddordeb