ynddo yn mhob peth a wnai. Fel pregethwr, fel darlithydd, fel bardd, Hwfa oedd Hwfa yn mhob un o'r cymeriadau hyny. Yr oedd neillduolrwydd yn perthyn i'w ddyn oddiallan a barai i'r dieithr wedi myned heibio iddo ar yr heol, droi yn ol i edrych arno gan ddweyd ynddo ei hun rhaid fod hwna yn rhywun,—"Pwy a all fod tybed?" Ac nid oedd y dyn oddiallan ond mynegiant o'r dyn oddifewn, a'r rhai a gaent fyned agosaf ato a welent fwyaf o neillduolrwydd ynddo. Y mae ambell un yn cael sylw ac edmygedd mawr pan yr edrychir arno o bell, ond " 'tis distance lends enchantment to the view "—pan yr eir yn agos ato y mae'r dyddordeb yn darfod a'r dyn yn ymddangos yn ddigon cyffredin. Ond po agosaf yr elid at Hwfa mwyaf oll o ddyddordeb a deimlid ynddo, canys wedi myned yn agos ato y gwelid ynddo ragoriaethau nad oeddynt mor amlwg i'r rhai a edrychent arno o bell.
Wrth sefyll uwchben y testun sydd wedi ei benodi i mi sef Hwfa Mon fel cyfaill, teimlais fod y porth yn gyfyng, ac yn arwain i ffordd. sydd braidd yn gul i mi ei rhodio gyda r adgofion sydd genyf am dano; a chymerais fy rhyddid i newid i mi fy hun y penawd gosodedig, i'r un a ganlyn sef "Adgofion am fy nghyfaill Hwfa Mon." Wrth draethu yr adgofion hyny am dano meddyliaf y gall y neb a'u darlleno gasglu yn rhwydd oddiwrthynt y fath un ydoedd fel cyfaill, ac y gwêl fod holl anhebgorion cyfaill—fel y maent yn gynwysedig yn yr ansawddeiriau, cywir, ffyddlon, caredig, dyddan—i'w cael yn llawn ynddo ef.
Y mae'r adgof cyntaf sydd genyf am dano yn fy nhaflu yn ol am bymtheng mlynedd a deugain. Hogyn yn yr ysgol oeddwn i y pryd hwnw, a chofiaf yn dda am danaf fy hun yn myned i'r ty un nos Sadwrn a chael fod y pregethwr a ddisgwylid i bregethu y Sabboth wedi cyrhaedd. Gwelwn ef yn eistedd ar y gadair wrth y tân——yn ddyn ieuanc tál a gwallt gwineuliw hir wedi ei droi yn ol oddiwrth ei dalcen a thu ol i'w glustiau nes yr oedd ei wyneb llawn glán difarf yn cael eithaf chwareu teg i ymddangos. Tybiwn na welais ddyn ieuanc harddach erioed. Cofiaf am dano yn pregethu dranoeth, a