ni feddwl am gysgu yn agos at Kilsby ac yntau yn effro. Ac yn effro y bu gan barablu hyd oriau mân y boreu, ac adrodd ystraeon a barent i ni chwerthin hyd oni siglai y gwely tanom; a chodasom yn y boreu heb i ni gael cysgu ond ychydig iawn, a'n hochrau yn ddolurus gan yr hyrddiau o chwerthin a gyffroed ynom gan ei ddigrifwch. Aethom o Gapel Curig heibio i Ben-y-Gwrhyd a thrwy y bwlch i Lanberis. Yn hwyr y dydd-hirddydd haf-cychwynasom ddringo i ben y Wyddfa, a chyrhaeddasom rhwng deg ac un-ar-ddeg o'r gloch ac arosasom yno hyd y boreu er mwyn cael gweled yr haul yn codi.
Yr oedd gwelyau i'w cael ond gan ein bod yn eu drwgdybio o fod yn oer ac yn llaith penderfynasom ymgadw rhagddynt. Tra yn eistedd i fynu gan siarad a phen-dympian bob yn ail, tuag un o'r gloch y boreu clywem swn gwaeddi oddiallan, ac erbyn craffu- wrando clywem rhyw lais yn galw arnom ni wrth ein henwau. "Gato pawb!" meddai Kilsby "yspryd pwy sydd yn aflonyddu arnom ar ben y Wyddfa!" Wedi i ni agor y drws pwy a welem yn sefyll yno ond Hwfa! Wrth weled yr olwg hurt-synedig oedd arnom torodd Hwfa allan i chwerthin nes o'r bron y tybiem y clywid ei swn yn y gwaelodion pell. Yr oedd rhywbeth heintus yn chwerthiniad Hwfa, a pharodd i ninau chwerthin, ac yr oedd clywed dau chwarddwr o'r fath ag oedd Kilsby a Hwfa, yn cyd chwerthin ar eu heithaf yn rhywbeth i gofio am dano. Wedi i ni ei adael yn Methesda ymddengys fod Hwfa wedi edifarhau am wrthod dyfod gyda ni, a phenderfynodd ddyfod ar ein hol, ac yr oedd ei ddyfodiad atom yn ychwanegiad mawr at ddifyrwch y cwmni. Ar y daith hono ac ar ben y Wyddfa y dechreuodd y cyfeillgarwch a fu rhyngof ag ef am gyhyd o amser, ac a barhaodd yn ddidor ac yn ddigwmwl hyd y diwedd.
Credaf na bu neb erioed yn haws cadw cyfeillgarwch yn mlaen ag ef na Hwfa Mon. Os bu iddo rai, fu unwaith yn gyfeillion, ond heb barhau felly, yn sicr nid arno ef yr oedd y bai o hyny. Nid oedd ynddo ddim diffyg mewn cywirdeb a ffyddlondeb a barai i'r rhai a ymwasgent i agosrwydd cyfeillgarwch ag ef ymgilio oddiwrtho