Eisteddfod yn Chicago, ond yr oedd y fath amlygrwydd yn cael ei roddi iddi yn y papurau Americanaidd fel yr oeddym yn gallu dilyn ei gweithrediadau y naill ddydd ar ol y llall. Ac yn nglyn â'r Eisteddfod yr oedd son mawr am Hwfa Mon. Ychydig o amser wedi'r Eisteddfod yr oeddwn yn pregethu yn Homestead—tref yn agos i Pittsburgh—ac yn y ty lle yr arhoswn adroddwyd i mi am Americanwr Seisnig yn gofyn i un o deulu y ty "Who is this Half—a—Moon they are talking so much about?" Meddyliai y dyn oddiwrth yr enw, fel y deallid ganddo ef, mai rhyw Indian Chief ydoedd wedi cael ei ddwyn o rywle o'r gorllewin pell i wneyd arddangosiad o hono yn yr Eisteddfod. Ac nid yn nglyn â'r Eisteddfod yn unig yr oedd son am dano. Ymdyrai cynulleidfaoedd mawrion i wrando arno yn pregethu ac yn darlithio, ac aeth yn ddwfn iawn i serch ein cyd-genedl drwy y wlad fawr i gyd. Y flwyddyn ddiweddaf (1905) bum yn aros am rai wythnosau yn Cincinnatti yn nhalaeth Ohio, a sonid wrthyf yn barchus ac yn anwyl iawn am Hwfa Mon gan y Cymry yno, gan y rhai yr oedd adgofion melus iawn am dano yn ei ymweliad â hwy yn y flwyddyn 1893.
Wedi bod yn pregethu ac yn teithio am yn agos i dri mis cyrhaeddodd Rowlands a minau i Remsen lle yr oedd Cymanfa Oneida i ddechreu, a lle y disgwyliem gyfarfod â Hwfa. Cyrhaeddasom yno yn brydlon erbyn y nos gyntaf sef nos Lun, ond er ein siomedigaeth nid oedd dim hanes am Hwfa. Bore dydd Mawrth, daeth telegram oddiwrtho i hysbysu ei fod ar y ffordd ac y byddai yno mewn pryd i bregethu y prydnawn. Gan fod Rowlands wedi pregethu y nos gyntaf disgynodd arnaf fi i bregethu gydag un o weinidogion y cylch yn oedfa y bore. Pan oeddwn ar ganol pregethu daeth Hwfa i mewn a cherddodd yn mlaen i eisteddle yn ymyl y pwlpud. Wedi eistedd edrychodd i fynu ataf gyda'r wên oedd mor nodweddiadol o hono, ac yna edrychodd am Rowlands a chanfu ef yn eistedd yn y set fawr a gwenodd arno yntau. Yna gwelwn, ei lygaid yn llenwi o ddagrau, a thynodd ei gadach o'i logell a chuddiodd