ei wyneb ynddi a bu yn yr agwedd hono am rai munydau. Wedi i'r oedfa derfynu brysiasom ato ac yntau atom ninau ac wedi hir ysgwyd dwylaw dywedodd "Frodyr anwyl y mae'n dda genyf eich gweled. Yr oedd arnaf hiraeth am danoch. Yr oeddwn yn methu peidio crio o lawenydd pan welais eich gwynebau." A da oedd genym ninau ei weled yntau a chawsom fod gyda'n gilydd ar hyd yr wythnos hono gan ein bod ein tri i ddilyn y Gymanfa o Remsen i Holland Patent ac oddiyno drachefn i Utica lle yr oedd i derfynu nos Wener. Wedi gorphen y Gymanfa aethom gyda'n gilydd i Waterville lle y disgwylid am danom i gynal cyfarfod pregethu nos Sadwrn ar Sabboth. Bore Llun daeth yr adeg i ni ymwahanu drachefn. Yr oedd Rowlands a minau bellach yn troi ein gwynebau ar New York lle y bwriadem fod erbyn y Sabboth ac yna y dydd Mercher canlynol i gymeryd y llong—y Teutonic fyth—i ddychwelyd adref. Ond yr oedd gan Hwfa fis neu bum wythnos eto i fod yn y wlad. Ceisiasom ganddo daflu y cwbl i fyny i ddychwelyd gyda ni, ac oni fuasai fod ganddo amryw o ymrwymiadau i ddarlithio a bod parottoadau wedi cael eu gwneyd gan y cyfeillion yn y gwahanol fanau mewn ffordd o argraphu a gwerthu tocynau, credaf y buasem wedi llwyddo. Ond ni allai feddwl am siomi y cyfeillion oedd yn disgwyl am dano ac wedi darparu ar gyfer ei ddyfodiad i'w plith. Daeth gyda ni i'r depôt i'n gweled yn cychwyn a chofiaf byth am yr olwg drist ddigalon oedd arno. Yr oedd dagrau eto yn ei lygaid, a daliodd i edrych arnom, a ninau arno yntau, hyd nes y'n cipiwyd o'i olwg. Teimlem braidd yn bryderus yn ei gylch canys yr oedd wedi gwaethygu o ran yr olwg arno o'r hyn ydoedd ar ddechreu y daith, dri mis cyn hyny; ac nid rhyfedd ychwaith canys pregethai a darlithiai gyda'r un egni a meithder yn nghanol gwres mawr yr haf yn America, ag y gwnai yn y wlad hon fel yr ydoedd wedi teneuo a gwywo cryn lawer yn ei wedd. Yn nghofiant y diweddar Dr. Roberts, Wrexham, ymddengys llythyr a dderbyniodd Dr. Roberts oddiwrth gyfaill iddo yn America yn mha un y dywedir fel hyn am Hwfa: