"Yr wyf newydd ddod adref o Bangor Pa: lle y bum yn treulio Sabboth gyda'm cyfaill Hwfa, ac yn ffarwelio ag ef am byth mae'n debyg yn y byd hwn. Darlithiodd yno nos Sadwrn ar Hiraethog a pregethodd y Sabboth dair gwaith i gynulleidfaoedd mawrion. Y mae'r hen frawd yn dal yn dda iawn, ond yr wyf yn meddwl ei fod wedi tori tipyn oddiar pan welais ef gyntaf dros dri mis yn ol. Y mae'n syn ei fod yn dal cystal. y mae'n pregethu neu ddarlithio bob nos ac yn dal ati bob tro am awr a haner i dair awr! ac yn bloeddio a chwysu yn ofnadwy. Pregethu yn wir dda a chyda dylanwad mawr. Y mae wedi myned yn ddwfn iawn i serch y bobl yn y wlad hon ac yr wyf yn sicr ei fod wedi gadael dylanwad da ar ei ol yn mhob man y bu."
Gwelir fod y llythyr uchod yn cadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn barod am effeithiau y daith ar Hwfa ac hefyd am y dylanwad da a gafodd ei gymdeithas a'i weinidogaeth ar y rhai y bu yn ymdroi yn eu plith yn ystod y daith. Er cymaint yr ofnem am dano oddiar yr olwg a welem arno pan yn ei adael yn Waterville, cafodd ddychwelyd o'i daith lafurus heb fawr o anmhariaeth ar ei iechyd, canys bu fyw am ddeuddeg mlynedd wedi hyny gan deithio a pregethu a darlithio gyda nerth hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu fy anwyl gyfaill Rowlands farw cyn pen pedair blynedd wedi dychwelyd ohono o'r America. Yr oedd ef yn un o'r rhai rhagorol" yn sicr, a phan yn anterth ei nerth yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a phoblogaidd yn Nghymru. Nid oedd yn gryf ei iechyd pan yn cychwyn i'r daith, a bernir fod llafur y daith wedi bod yn foddion i fyrhau ei oes. Ond yr oedd Hwfa yn meddu ar gyfansoddiad mor gadarn fel na effeithiwyd arno ef gan y llafur a'r gwres ond yn arwynebol iawn.
Bu y gymdeithas a gefais gydag ef ar y daith hono yn foddion i beri i mi feddwl yn uwch ac yn anwylach o hono nag erioed. Yr oedd iddo yntau ei ddiffygion a'i feiau fel sydd i bawb o honom; ond yr oedd ynddo ragoriaethau a barent i'w gyfeillion ei werthfawrogi a'i garu drwy y cwbl. Gwyr pawb oedd yn ei adnabod ei fod yn hynod o ddiabsen. Byth ni chlywid ef yn siarad yn isel neu yn chwerw am neb. Ac yr oedd hefyd yn hynod o loyal i'w gyfeillion. Ni fynai wrando ar ddim a ddywedid yn erbyn ei gyfeillion. Ni chai neb fyned yn mlaen ond ychydig iawn yn y ffordd hono yn ei bresenoldeb