Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/147

Gwirwyd y dudalen hon

Pennod XI.

EI FARWOLAETH AI GLADDEDIGAETH.

GAN Y PARCH. R. PERIS WILLIAMS, WREXHAM.

"Natural death is, as it were, a haven and a rest to us after long navigation. And the noble soul is like a good mariner; for he, when he draws near the port, lowers the sails and enters it softly with gentle steerage. . . . And herein we have from our own nature a great lesson of suavity, for in such a death as this there is no grief nor any bitterness: but as a ripe apple is lightly and without violence loosened from its branch, so our soul without grieving departs from the body in which it hath been.

GELLIR, gyda phriodoldeb, gymwyso y dyfyniad uchod o gyfieithiad Dr. Carlyle i'r Saesneg o Convito Dante, at ymadawiad Hwfa Mon a'r fuchedd hon. Aeth ymaith fel llestr yn myned i'r hafan ar ol mordaith hir.

Bu yn bur wael ychydig amser cyn symud o Langollen i fyw i Rhyl; tybiai ef ac eraill fod ei adferiad yr adeg hono yn dra ansicr, pa fodd bynag, cefnodd ar