Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

rhamantus yr amgylchiad. Llwyddwyd i'w godi i eistedd mewn cadair rhyw bythefnos cyn ei ymadawiad, ond wedi bod yn eistedd ynddi am tua chwarter awr yr oedd yn dda ganddo gael myned yn ol i'w orweddle. Un diwrnod efe a roddodd" fel Joseph "orchymyn am ei esgyrn." Gofynodd i'w nith drefnu iddo gael ei gladdu yn mynwent newydd y Rhyl, yn hytrach nag yn mynwent Seion Treffynon lle y claddwyd ei briod, ac hefyd lle y claddwyd Miss Roberts fu yn cadw ei dy wedi marwolaeth ei briod. Gofynodd hefyd i'w nith, i ofalu am roddi rhyw gydnabyddiaeth i'r cerbydwr a'i dygodd adref y diwrnod y cymerwyd ef yn wael.

Talwyd ymweliad ag ef yn ystod ei gystudd gan amryw o'i hen gyfeillion, a'r hyn roddai iddo fwy o foddhad na dim a glywai ganddynt, oedd y newyddion da a ddygent iddo ynghylch y Diwygiad Crefyddol yn ngwahanol ranau y wlad. Wylai fel plentyn ar ol iddynt ymadael, yr oedd hyny yn effeithio arno yn ei wendid fel y bu raid i'r meddyg wahardd i neb ei weled. Yr oedd yn graddol wanhau o ddydd i ddydd, a chan iddo gael ei daraw gan paralysis yn y gwddf, analluogwyd ef i lefaru ond yn bur aneglur; yr oedd ei feddwl hefyd ar brydiau yn ddyryslyd, ond yn ei ddyryswch yr oedd yn nghanol ei waith, yn darparu i fyned i'w deithiau i bregethu, ac yn trefnu ar gyfer yr Eisteddfod, &c. Nid agorodd ei lygaid, ac ni cheisiodd ddweyd gair o'r Nos Fawrth olaf y bu byw, hyd brydnawn dranoeth. Oddeutu tri o'r gloch ddydd Mercher gofynodd ei nith iddo Fewyrth bach, sut yr ydych yn teimlo? Nellie sydd yma hefo chwi. Oes arnoch chwi ddim ofn ai oes?" Ni chymerai sylw am beth amser o'r hyn ddywedai, ond yn sydyn agorodd ei lygaid ac edrychodd, a chyda gwên nefolaidd ar ei wyneb, ceisiodd lefaru. Yr oll ellid ei ddeall o'r hyn ddywedai oedd Nellie bach, O! 0!! hapus! hapus!! hapus!!!" Torodd Miss Roberts i wylo, ceisiodd yntau amneidio arni i beidio, ac yna cododd ei law, a dywedodd yn hyglyw "I fyny, I fyny." Dywedodd Miss Nellie wrtho "Yr ydych yn hapus iawn, fewyrth" ac atebodd yntau "Fu neb erioed yn fwy hapus." Wedi hyny, aeth i ffwrdd yn raddol; anadlai yn