Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/150

Gwirwyd y dudalen hon

wanach a byrach, hyd nes, heb ymdrech na llafur, yr hunodd yn yr Iesu, am ddau o'r gloch boreu dydd Gwener, y 10fed o Dachwedd. Derbyniwyd y newydd am ai ymadawiad gyda galar cyffredinol. Brithid y wasg a chyfeiriadau helaeth at ei farwolaeth. Dydd Mawrth y 14eg., oedd diwrnod ei angladd a gallesid dweyd wrth yr olwg oedd ar dref Rhyl fod rhywbeth mawr yn cymeryd lle yno y diwrnod hwnw. Yn gynar ar y dydd gwelid cerbydau a motor cars arglwyddi a boneddigion y fro yn olwyno tua Llys Hwfa, a dygent dorchau o flodau tlysion a bytholwyrdd yn fud dystion o barch i goffadwriaeth y gwr hyawdl oedd wedi tewi. Haner awr wedi un ydoedd yr adeg i gychwyn yr angladd, ond ymhell cyn yr amser yr oedd tyrfa o gyfeillion ac edmygwyr yr ymadawedig, yn wyr, gwragedd, a phlant, yn cynrychioli gwreng a bonedd, addysg, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd y wlad wedi ymgasglu i River Street. Gweinyddwyd yn y ty, gan y Parch Thomas Evans, Amlwch, drwy ddarllen rhanau o'r Beibl, a gweddio yn dyner a dwys. Yna dygwyd allan yr arch o dderw caboledig yn cynwys yr hyn oedd. farwol o'r prifardd. Yr ysgrifen ar yr arch oedd :—

"PARCH ROWLAND WILLIAMS.

(HWFA MON).

Bu Farw 10fed o Dachwedd, 1905.

Oed 83."

Yr oedd cynifer o wreaths wedi eu danfon fel nad oedd yn bosibl rhoddi ond ychydig o honynt ar yr arch. Wele restr o'r rhai ddanfonasant dorchau o flodau:—Arglwydd ac Arglwyddes Mostyn; yr Arglwyddes Augusta Mostyn; Yr Anrhydeddus Filwriad a Mrs. Henry Lloyd Mostyn; Yr Arglwyddes Pyers Mostyn, Talacre; Miss Harens, Llundain; Nurse Marie Anwyl; Miss Nellie Hwfa Roberts (yr hon a weinyddodd yn dyner a gofalus ar Hwfa hyd y diwedd); Cymdeithas Cymry Caer; Mrs. Bulkeley Owen "Gwenrhian