Y Parch. R. Richards, yr hwn a gynrychiolai Eglwysi Rhyddion, Rhyl, a ddywedodd fod yr Eglwysi hyny yn cydymdeimlo yn fawr â theulu y diweddar Hwfa Mon, a'r Enwad Anibynol. Yr oeddynt yn teimlo yn falch ei fod wedi dyfod i fyw i Rhyl; yr oedd wedi rhoddi mwy o enwogrwydd ar y lle am ei fod wedi dyfod yno. Yr oedd rhyw urddas yn ei bresenoldeb pan yn mynychu cyfarfodydd yr Eglwysi Rhyddion. Cyfeiriodd ato fel gwrandawr rhagorol ar bregethwyr eraill, sylwodd nas gallai draddodi areithiau byrion, a bod yn dda ei fod wedi myned i wlad lle nad oedd cyfrif amser.
Mr. E. Vincent Evans, Llundain, ysgrifenydd Cymdeithas yr Eisteddfod, a Chymdeithas y Cymrodorion, a ddywedodd ei fod ef a Mr. L. J. Roberts, Arolygwr ysgolion, yn cynrychioli Cymdeithas y Cymrodorion yn yr angladd. Yr oedd Hwfa Mon pan ydoedd yn weinidog yn Eglwys Fetter Lane, Llundain, yn bresenol yn y Cyfarfod pwysig gynhaliwyd yn 1875, pryd yr adnewyddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Syr Hugh Owen, Mr. Stephen Evans, "Y Gohebydd," Mr. Brinley Richards, a Mr. John Thomas, yn bresenol hefyd yn y cyfarfod. Y pryd hwnw y cychwynwyd yr adfywiad cenedlaethol a wnaeth gymaint yn Nghymru yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yr oedd yn chwith iawn ganddo feddwl fod Hwfa wedi ein gadael.
Y Parch. Thomas Edwards, "Gwynedd " a sylwodd fod dylanwad personoliaeth Hwfa Mon yn cael ei deimlo yn fawr bob amser; ac fel yr oedd o ran corff, felly yr oedd hefyd mewn ystyr feddyliol. Yr oedd pob peth a ddyferai dros ei wefusau yn werth ei wrando. Cyflawnodd wasanaeth anmhrisiadwy mewn llawer cyfeiriad, ac erys ei goffadwriaeth yn hir. Cafodd y genedl golled fawr iawn trwy ei farwolaeth.
Y Parch. J. Cadvan Davies, a sylwodd eu bod wedi cyfarfod er dychwelyd i'r nef yr hyn oedd wedi cael ei roddi yn fenthyg iddynt; ond wrth roddi y benthyg yn ol yr oedd wedi ei ranu rywfodd, oblegid bydd ei ddylanwad yn aros yn fyw yn yr eglwysi