Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/157

Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Rowlands (Dewi Môn)
ar Wicipedia





Pennod XII.

ADGOFION.[1]

GAN Y PARCH. DAVID ROWLANDS B.A., "DEWI MON."

CHWITH yw meddwl fod Hwfa Môn bellach yn ei fedd. Yr oedd amryw o honom sydd mewn gwth o oedran yn barod i feddwl y buasai efe yn ein goroesi oll; oblegid yr oedd ei gorff cawraidd, ei lais ystormus,a'iagwedd awdurdodol, yn gyfryw, gellid tybied, ag a barasai i Angeu ei hun betruso ymosod arno. Yn wir, yn yr ornest ddiweddaf, yr oedd yn bur amheus am rai wythnosau pa un o'r ddau a gawsai y llaw uchaf. Ond Angeu a orfu wedi'r cyfan, er mawr alar i laweroedd a obeithient yn wahanol.

  1. Allan o'r Geninen trwy ganiatad y diweddar Brif Athraw Dewi Môn.