Ar ryw ystyr gellir dywedyd mai Hwfa oedd y "bardd olaf"—yr olaf o'r âch a fu gynt mor ddylanwadol yng Nghymru. Claddwyd y diweddaf o'r baledwyr ym mherson Owain Meirion, y gwr tal, esgyrnog, ac afrosgo, a arferai deithio o ffair i ffair am flynyddoedd. i ddatganu y naill "gân newydd" ar ol y llall er difyrrwch i lanciau a llancesau gwledig nad allent brisio un math arall o lenyddiaeth. Llawer hanner awr a dreuliais i fy hunan, pan yn hogyn, i wrando ar ei greglais anaearol, pan yn traethu hanes rhyw drychineb cyffrous, megis tanchwa mewn glofa, neu lofruddiaeth erchyll, neu longddrylliad alaethus, mewn rhigwm o'i waith ei hun. Tybiaf nad oedd efe mor isel ei ymadrodd â'i ragflaenydd, "Die Dywyll," mantell yr hwn a ddisgynasai arno, er fod Dic yn rhagori arno mewn athrylith. Hoffai, ar rai adegau, ganu ar destynau crefyddol; hynny yw, pan y byddai testynau mwy poblogaidd dipyn yn brin. Er enghraifft, gellir nodi ei gân ar "Deifas a Lazarus," o'r hon nid oes ond y pennill canlynol yn unig wedi glynu yn fy nghof,—
Y porffor gorau gynt a wisgai,
A'r gwynion grysau i'w groen,
Heb feddwl munyd y cai ei symud
O'r bywyd i'r mawr boen.
Y tro diweddaf y daethum i gyffyrddiad âg ef oedd yn Llanbrynmair, lle y treuliodd ddiwedd ei oes mewn neilltuaeth, gan ennill ei fara wrth gario "siop wen." Ond nid oes iddo yr un olynydd. Er i amryw, o bryd i bryd, geisio ei efelychu, rhaid dywedyd nad oeddynt ar y goreu ond "sparblis" diddym, ag y buasai hen "hoelion wyth" y dyddiau fu yn cywilyddio arddel perthynas â hwy. Maddeuer i mi am grwydro oddiwrth fy nhestyn. Na freuddwydied neb fod Hwfa i'w gymharu am foment â'r clerwyr. Fy amcan yw dangos fel y mae dull y byd yn "myned heibio." Ond i ddychwelyd. Hwfa oedd y cynrychiolydd perffeithiaf o neb yn ei oes o'r bardd, sef yw hynny, bardd yr hen amseroedd. Yr