oedd Hwfa yn fardd o'i sawdl i'w goryn: gwaith mawr ei fywyd oedd barddoni; ac ychydig, mewn cymhariaeth, o ddyddordeb a gymerai mewn dim arall. Hyd y gwyddys, nid oedd yn malio brwynen pa blaid boliticaidd a fyddai mewn awdurdod; ac y mae yn amheus a allasai efe, ar unrhyw adeg, enwi prif aelodau y Llywodraeth. Ni fu erioed yn flaenllaw gyda mudiadau yr enwad y perthynai iddo; ac yr oedd cadair yr Eisteddfod yn symbylu ei uchelgais yn llawer mwy grymus na chadair yr Undeb Cynulleidfaol. Yn hyn tebygai i'r diweddar Ddoctor Joseph Parry (Pencerdd America). Gwyr pawb a adwaenent y Pencerdd fod miwsig wedi gorfaelio ei holl alluoedd, fel nad oedd ganddo chwaeth nac amynedd i feddwl na siarad am helyntion y byd yr oedd yn byw ynddo. Pe digwyddasai chwyldroad yn y Deyrnas, nid yw yn debyg y buasai yn tynu ei sylw o gwbl, oddigerth ysgatfydd iddo ganfod ynddo destyn cantawd.
Meddai y Bardd ddylanwad anhraethol yng Nghymru fu." Heb son am oes y Derwyddon neu y Canol Oesoedd, ni raid i ni fyned yn ol ond rhyw ganrif neu ddwy iw weled yn ei ogoniant. Creadur rhyfeddol ei foesau ydoedd, gan amlaf,—aflerw ei wisg, diofal am ei amgylchiadau, ac yn ymddibynu am ei fara beunyddiol ar hygoeledd ei noddwyr. Yr oedd eillio ei farf, a thorri ei wallt, a thrwsio ei berson, gellid meddwl, yn wastraff amser yn ei olwg. Y mae hyn yn cyfrif am y dywediad a ffynnai ymysg y werinos i ddesgrifio dynsawd mwy anolygus na'r cyffredin—"Mae o'n edrych wel prydydd." Nid ydym heb wybod fod eithriadau yn bod—fod y bardd a'r boneddwr, weithiau, yn cyfarfod yn yr un person. Ac yr oedd ei ofn ar bawb—y cyfoethog yn gystal a'r tlawd; oblegid y felldith fwyaf arswydus a allasai ddigwydd i ran neb marwol oedd cael ei oganu mewn cân. Fel hyn yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr ar rai adegau. Pwy all fesur y lles a wnaeth Twm o'r Nant yn ei oes trwy fflangellu crach foneddigion ac offeiriaid didoriad oedd yn bla ar y wlad? Nid oedd Elis y Cowper—os gwir yr hanes—yn rhy ofalus bob amser i wahaniaethu rhwng ei eiddo ei