hun ac eiddo ei gymydog. Dywedir iddo, unwaith, gymeryd meddiant o goed heb ofyn caniatad eu perchennog. Gwysiwyd ef i ymddangos ger bron yr ynad lleol mewn canlyniad, yr hwn a'i dedfrydodd i dymor o garchariad. Bore drannoeth cyfarfu yr ynad âg Elis ar yr heol yn Llanrwst, ar ei ffordd i'r carchar dan ofal ceisbwl. Dan ei gesail yr oedd rhol fawr o bapyr gwyn. "Aros di, Elis," ebai yr ynad, "beth yw y papyr yna sydd gen' ti?" "O," ebai yntau, " yr wyf yn bwriadu defnyddio hwn i ysgrifennu cân i chwi, syr." Dychrynnodd yr ynad yn aruthr; a chan droi at y ceisbwl dywedai, "Gad iddo fo fynd i'w grogi!
Yr oedd Hwfa yn fardd hyd flaenau ei fysedd— yn fardd yn ystyr gysefin y gair. Yr oedd yn y wir olyniaeth farddol, ac wedi yfed yn helaeth o ysbryd ac etifeddu y rhan fwyaf o hynodion yr urdd— urdd ag sydd, er gwell neu er gwaeth, yn awr wedi diflannu. Gallasai erys rhai blynyddau ddywedyd gyda gradd o briodoldeb, "Myfi fy hunan yn unig a adawyd," er fod amryw ymhonwyr eto yn aros. Wrth eu galw yn ymhonwyr pell wyf o amcanu eu diraddio. Dichon eu bod yn wyr o athrylith, gwybodaeth, a diwylliant tuhwnt i'r cyffredin—gwyr ag ydynt yn anrhydedd i'r wlad a'u magodd; ond nis gellir eu galw yn "feirdd " mwy nag y gellir gwthio gweinidogion Ymneillduol i'r olyniaeth apostolaidd. Pan gyfarfyddir â hwy ar yr heol, pwy sydd byth yn sefyll i synnu at eu hymddangosiad uwch ddaearol? Pwy sydd yn gallu gweled tân ysbrydoliaeth yn fflachio yn eu gwynepryd? Pwy feddyliai am gymhwyso at eu llygad pwyllog eiriau y prydydd Seisnig—" The poet's eye in fine frenzy rolling"? Beirdd, yn wir! Priodol fyddai iddynt, un ac oll, fabwysiadu cyffes Dewi Wyn o Eifion—
"Nid wyf fardd, ond ei furddyn!"
Y mae yr Orsedd weithian, gan nad beth sydd yn gywir parthed ei hynafiaeth, yn rhan hanfodol o'r Eisteddfod. Pe diddymid yr Orsedd ysbeilid yr Eisteddfod, yn ol syniad y lluaws—Saeson yn