mwy o arddeliad na neb yn ei oes; ac yr oedd ganddo doraeth o honynt ar gyfer pob amgylchiad. Y rhai mwyaf doniol o'r cwbl oll oedd ei englynion ef ei hun i'r Llwynog, a adroddwyd ganddo, am y waith gyntaf, yn Eisteddfod Aberffraw, yn 1849. Wedi darlunio camweddau y creadur barus, yn ei ffordd ddihafal ei hun dywed—
Ac am a wnaeth o gam â ni,—heblaw
Dwyn oen blwydd a thwrei,
Mileiniaid tost yw 'mhlant i,
A'm gwraig sydd am ei grogi.
Ond gellir dywedyd yn ddibetrus na chyrhaeddodd yr Orsedd binacl ei rhwysg hyd deyrnasiad Hwfa. Yn ystod ei deyrnasiad ef (a Chlwydfardd hefyd, o ran hyny) daeth ei graddau yn werth eu derbyn gan fawrion y tir, ac hyd y nod y teulu brenhinol, heb son am enwogion gwledydd eraill. Credaf na ddygodd Brenhines Roumania o'r wlad hon drysor gwerthfawrocach yn ei golwg na'r ysnoden las a dderbyniodd yn Eisteddfod Bangor. Ychwanegodd y Proffeswr Herkomer hefyd, dro yn ol, at ei hurddas arddangosol drwy wisgo y Derwyddon, y Beirdd, a'r Ofyddion, mewn gynnau gwynion, gleision, a gwyrddion, a choroni yr Archdderwydd â choronbleth o fetel cerfiedig fel arwyddnod o'i uwchafiaeth.
Nid yw yr Orsedd eto y peth y dylai fod, na'i graddau o gymaint gwerth ag y gellid dymuno. Buwyd yn gywilyddus o esgeulus, am lawer blwyddyn, yn y mater o raddio. Ystyrid unrhyw leban a allai gyfansoddi pwt o englyn, ac a allai berswadio y cyflwynfardd calon feddal i'w arwain i'r cylch cyfrin, yn gymwys i'w ysnodennu ar unwaith. Yn unig gofynnai yr Archdderwydd, "A ellir bardd o honaw?" ac os atebid, "Gellir," dyna bopeth ar ben. Cyhoeddai yr Archdderwydd fod y penbwl i gael ei adnabod o hynny allan, ymysg Beirdd Ynys Prydain, dan yr enw "Sion Ddwygoes," er mawr syndod i bob edrychydd meddylgar a ddigwyddai fod yn bresennol. Rhaid i bob ymgeisydd am radd ar hyn o bryd basio