ysbrydiaeth cerdd. Yr ydym yn rhyfeddu, gan hynny, at nodwedd ffrochwyllt ei ysgogiadau meddyliol. Gwir y gallasai unrhyw ddiwrnod weled cyrrau Arfon yn y pellder, a mynyddoedd yr Eryri yn dyrchafu eu pennau ar y terfyngylch tua chodiad haul: a gallwn yn hawdd ddyfalu iddo, lawer dydd, sefyll mewn syndod i syllu ar y cymyl trwmlwythog a ymrolient ar eu llethrau ar ddynesiad yr ystorm. Digon tebyg i hyn adael argraff ddyfnach ar ei feddwl na'r olwg hudolus fyddai arnynt dan goron felynliw yr heulwen yn nhawelwch hwyrddydd haf. Tybed ei fod, yn y llinellau canlynol o'i eiddo i genedl y Cymry, yn adrodd ei brofiad ei hun?
Gwela greigiau
Trwy'r cymylau:
Ar y glannau aur a gleiniog
Am eu gyddfau
Gwela dorchau
Niwl y borau yn wlybyrrog.
Y llwydwyn niwl a'u dillada.—a'i darth
Yn dew a'u gorchuddia;
Yna lluwch fentyll o iâ,a'i rewynt
Yn oer, am danynt a hir ymdaena.
Brychion gernau,
Troiog riwiau,
I gorynnau geirw Anian.
Hirfaith drumiau,
Crychog gribau,
Lluaws dyrrau, llys y daran.
Y mae yn rhy fuan eto i benderfynu safle Hwfa yn y byd barddonol: caiff Amser wneud hynny—Amser nad yw byth yn pallu gwneud cyfiawnder, trwy gladdu enwogrwydd rhai, ac anfarwoli eraill mwy teilwng, a esgeuluswyd ond odid gan eu cydoeswyr. Gallwn ddywedyd, fodd bynnag, fod yr elfen gyffrous, ysgythrog, ddychrynllyd, yn cael lle amlwg yn ei gynyrchion. Cymerer y darnau canlynol, y rhai a ddyfynnir ar antur:—
Y RHYFELFARCH.
Trwy wyn hadl, troa yn hyll,—
Cyrcha i'w branciau erchyll!
Troedia lwybr y trydan,—
A charnau dig chwyrna dân!
Ysol fellt trwy y meusydd,
Fel hen seirff, o'i flaen y sydd!
Pala ei ffordd! a'r pylor.
Yn dân oddeutu ei dorr!
Hollta y main trwy wyllter,—
Uwch y sarn lluchia y ser!
Gyrra trwy byllau gorwaed!
Tan ei geirn tonna y gwaed
 mwy o nerth llamu wna,—
Y fagnel dan draed figna.
Y DDANNODD.
Rhonco waew yn rhincian—yw'r Ddannodd,
Trwy ddynion pensyfrdan,—
Bwyall diawl,—ebill o dân
Yn tyllu'r cilddant allan!