derbyniad a roddwyd i Hwfa ar y cyntaf gan rai o'r hen feirdd. Hwyrach fod beiddgarwch ei arddull, yn ol eu barn hwy, yn rhy ddibris o safonau chwaeth ar yr un pryd nid wyf yn gwybod i neb fod yn gâs wrtho;—pwy erioed a geisiodd fod yn gâs wrth Hwfa ac a lwyddodd? Gwelais rai yn gwenu wrth grybwyll ei enw; ond dyna i gyd; ni chefais le i gredu fod y wên un amser yn cuddio malais. Canodd un bardd o fri nifer o englynion ysmala, yn y rhai yr alaethai dynged resynus y Beirdd, y rhai a deflid, un ac oll, allan o waith, gan na byddai dim gofyn mwyach ar eu nwyddau. Terfynai trwy ddywedyd:—
Ni enwir neb yn union
Ond Hwfa fawr, fawr o Fôn!
Ni argraffwyd yr englynion hyn o gwbl; ond buont am flynyddau ar lafar gwlad. Bum yn synnu ynnof fy hun, ganwaith, yn ystod cystudd olaf y bardd, pan yn darllen, o ddydd i ddydd, yn y newyddiaduron Seisnig, yr hysbysiadau parth cwrs ei glefyd—bum yn synnu mor agos fu i'r broffwydoliaeth a nodwyd gael ei chyflawni!
Cyfarfyddais âg ef laweroedd o weithiau, dan bob math o amgylchiadau, yn ystod yr hanner can mlynedd dilynol. Mae y rhan fwyaf o'r achlysuron hynny, wrth reswm, wedi llithro o'm cof. Nid felly Eisteddfod fawr Caerynarfon yn 1862, lle gwelais ef yn eistedd, am y tro cyntaf, yn y Gadair Genedlaethol. Nid oeddwn i fy hunan wedi bod mewn eisteddfod erioed o'r blaen; ac yr oedd y gweithrediadau mor newydd, mor ddyddorol, ac mor hyfryd i mi, fel, er i mi wario swm o arian am lety, a lluniaeth, ac anghenrheidiau eraill,—a'm llogell heb fod yn rhy lawn,—ni fu byth yn edifar gennyf. Lle enbydus yw tref Gymreig ar adeg yr Eisteddfod gellir meddwl fod rhyw wanc aniwalladwy yn meddiannu y trigolion, fel nad ydynt yn foddlawn i'r ymwelwyr ymadael cyn talu y ffyrling eithaf—a llawer ffyrling dros ben! Bum mor ffodus a chael fy urddo gan Feilir, archdderwydd y cyfnod; a