theimlwn gryn dipyn yn dalach ar ol y ddefod. Yr oedd rhyddid a chynulliadau i mi wedyn fyned i gyfarfodydd y Beirdd digyffelyb oedd cyfarfodydd y cyfarfodydd y Beirdd yr amser hwnnw. Yr amcan proffesedig wrth eu cynnal oedd ymdrin â breiniau Barddas; ond, waeth heb gelu, treulid yr amser i adrodd ffraethebion, chwedlau, ac englynion byrfyfyr, gan hen lychod gwreiddiol, ag ydynt, erys llawer dydd, wedi eu priddo, heb adael neb o gyffelyb ddoniau i lanw eu lle. Dyna'r unig dro i mi glywed yr hen bererin ffraethbert, Owen William o'r Waenfawr; ac er ei fod yn dra oedrannus, yr oedd yn llawn asbri, ac yn ymfflamychu gyda'r goreu o'i frodyr. Digwyddasai Nicander ddywedyd, un boreu, nad oes yr un Cymro "o waed coch cyfan" i'w gael yn bresennol ac ymddengys i'r haeriad gynhyrfu yr hen frawd hyd waelodion ei fodolaeth. Yng nghyfarfod yr hwyr—cyfarfod y Beirdd—torrodd dros ben y llestri; a chyda difrifwch digamsyniol—difrifwch dyn wedi ei sarhau yn nhy ei garedigion—dywedai, "Yr wyf yn adnabod fy nhylwyth erys dwy fil o flynyddoedd. Y dyn yn dweyd fy mod i yn perthyn i Saeson, Ysgotiaid, Gwyddelod, a rhyw 'nialwch felly!" Ond prif arwr y cyfarfodydd, fodd bynnag, oedd Cynddelw. Yr oedd ei ystraeon yn ddiderfyn; a llawer o honynt yn ddigon i greu chwerthin mewn hen geffyl. Crybwyllodd rhywun y lles dirfawr oedd y Saeson yn ei wneud i Gymru, drwy wario eu harian i weithio ei mwngloddiau. Felly'n siwr!" ebai Cynddelw, âg ystryw yng nghil ei lygad, "ond pwy, atolwg, sy'n crafangu y cwbl o'r elw? A glywsoch chwi erioed stori y Gwyddel a'i gi? Digwyddodd i'r ddau golli eu ffordd yn un o goedwigoedd mawrion yr Amerig; a dyna lle buont am ddyddiau yn crwydro nes eu bod bron a newynu. O'r diwedd penderfynodd yr adyn dorri cynffon y ci; ac wedi llwyr—fwyta y cig oedd arni, caniatodd i'r ci druan grafu yr esgyrn!"
Yr oedd pabell yr Eisteddfod, yr hon oedd rhwng muriau y Castell, yn orlawn ddiwrnod y cadeirio. Dodir mwy o bwys ar gadeirio y Bardd yn y Gogledd nag a wneir yn y De; a dyna yr olygfa sydd yn