atynnu y miloedd. Ac yr oedd yr Eisteddfod yn Eisteddfod y pryd hwnnw, ac nid, fel y mae wedi myned erbyn hyn, yn gymanfa ganu, —yn enwedig yn y De, lle y teflir popeth i'r cysgod gan y cystadleuaethau corawl. Ar y llwyfan yr oedd cynulliad mawreddog o ser y byd llenyddol, yn cynnwys Caledfryn, Gwalchmai, Nicander, Gweirydd ap Rhys, Taliesin o Eifion, Glasynys, Ioan Emlyn, Ceiriog, Robyn Wyn, Eben Fardd, ac eraill rhy luosog i'w henwi —ser ag ydynt heddyw oll wedi machludo! Sylwer mai Robyn Wyn oedd tywysog y marwnadwyr; ac efe fyddai yn wastad bron yn ennill y dorch pan fyddai Marwnad i gystadlu arni, ac yr oedd wedi ennill y boreu hwnnw. Pan alwyd ei enw, parodd rhyw fardd cellweirus gryn ddifyrrwch trwy waeddi—
Robyn Wyn, er neb, yn awr,
A wyla ar bob elawr!
Ac yn y fan atebodd rhywun arall—
Er neb yn awr, Robyn Wyn
A wyla am ei elyn!
Testyn y Gadair oedd "Y Flwyddyn;" a'r beirniaid oedd Caledfryn, Nicander, a Gwalchmai. Yr oedd llawer o ddyfalu wedi bod, er's wythnosau, pwy oedd i gael y Gadair: ond pan aeth y gair ar led fod. Eben Fardd yn cystadlu, nid oedd dim amheuaeth ym meddwl neb nad efe oedd i'w chael. Rhyfyg o'r mwyaf, yn ol syniad y werin, oedd i neb ei wrthwynebu. Onid oedd efe yn gadeirfardd eisoes? Ac onid oedd wedi cynyrchu rhai o'r awdlau mwyaf gorchestol yn yr iaith? Ac onid oedd ei enw yn adnabyddus trwy Gymru benbaladr fel pencampwr anorchfygol? Ychydig oedd nifer y cadeirfeirdd y dyddiau hyny: gallasai dyn yn rhwydd eu cyfrif ar ei fysedd. Pan ofynnid pwy oedd i gael y Gadair, cyfyngid yr atebiad i ryw un o fysg rhyw hanner dwsin, nid amgen Caledfryn, Hiraethog, Emrys, Gwalchmai, Eben Fardd, ac fe allai un neu ddau eraill. Ni freuddwydid fod yn ddichonadwy ychwanegu at eu nifer. Mor