dy fam yn Mhen y Graig. Edrych ar Feibl Peter Williams yn eu canol, dyna i ti Wyddfa yn codi hyd y drydedd nef, a galli weled tragwyddoldeb oddiar ei phen heb un cwmwl rhyngoch di ag ef. Cododd y geiriau syml yna o enau fy mam pan oeddwn yn blentyn syniadau uchel yn fy meddwl am fawredd y Beibl, a gwnaethant i mi geisio dysgu ei ddarllen a'i fyfyrio. Ac nid oes neb byth all ddywedyd beth yw gwerth addysg Mam i mi."
Rhoi addysg o nef y nefoedd—i mi
Wnai Mam drwy'r blynyddoedd;
Didor yn ngair Duw ydoedd,
Un a'i blâs yn ei Beibl oedd.
Rhoes Mam heb flinaw 'n llawen,—cu ei henaid
Dros ei hunig fachgen;
A'i haraeth bob llythyren,
Fyddai iaith y nefoedd wen.
Menyw fechan a mwyn fochau—a gwraig
Gref iawn ei synwyrau;
Ni bu cristion drwy Fôn fau
Gywirach yn ei geiriau.
Un rasol ddoniol ddinam—ie doeth
I'm dal rhag pob dryglam;
Argau rhag pethau gwyrgam,
Fu i mi addysg fy Mam.
Ei heinioes hyd ei phenwyni—a fu
Yn werth dirfawr imi
A'i llun o hyd i'm lloni,
A lyn ar fy nghalon i.
Cefais cyn fy mod yn cofio—wyn gryd
Pen y Graig i'm siglo;
Ces drwy'r serchog freintiog fro,
Angelion i fy ngwylio
"Mewn gwaith deng munyd o gerdded i'r Gogledd Ddwyrain