Mam ar adeg bwysig felly, ac yr oedd fy Nhad yn dweud 'wrthym mai awgrym o lwyddiant mawr oedd tywyniad yr haul ar adeg symudiad felly. Gwrthododd fy Mam fyned i mewn i un o'r Troliau oblegid yr oedd yn well ganddi gerdded, a chymerai finau yn ei llaw. Cyrhaeddwyd Rhostrehwfa yn gynar yn y prydnawn, a dadlwythwyd y dodrefn yn lled gryno cyn y nos. Yr oedd y ty yn llawn o honynt. Gwnaeth fy Mam dipyn o drefn ar yr aelwyd er mwyn i ni gael tamaid o swper, a lle i gadw dyledswydd y tro cyntaf erioed yn canol y Rhos. Darllenodd fy Nhad y drydedd Salm ar hugain, ac aeth i weddi fer. Gweddi fer fyddai gan fy Nhad yn wastad, ac ni bu erioed yn amleiriog mewn gweddi. Ond ni welais ef erioed yn gweddio gartref nac yn y Capel na byddai ei ddagrau yn llifo yn ffrydiau dros ei ruddiau, ac felly yr oedd ef y noson ryfedd a phwysig hon."
Ei ddwysder ef ydoedd wastad,- yn dod
O flaen Duw drwy brofiad;
Nód amlwg o ddwfn deimlad
Geiriau Nef oedd dagrau Nhad.
"Boreu dranoeth drachefn cadwyd dyledswydd yr un fath ar yr aelwyd. Eglwys y Methodistiaid yn Llangefni, pellder o ddwy filldir, oedd yr agosaf i ni, a'r ffordd yn dda, ac yno yr oedd y Nhad am i ni fyned; ond i Bencarog, bellder o dair milldir a hono yn ffordd ddrwg iawn y mynai 'fy Mam fyned, a hi a orfu. Yn Mhencarog yr ymaelodasant er gwaethed oedd y ffordd yno. Ac i Bencarog gyda fy Rhieni y bum inau yn myned hyd nes oeddwn yn bedairarddeg oed. Ni bum yn aelod o'r Eglwys yno oherwydd nid oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn derbyn rhai yn gyflawn aelodau o'r oedran hwnw yn y dyddiau hyny, yr hyn oedd yn sicr o fod yn ddiffyg mawr ynddynt. Bu fy Rhieni yn ffyddlon iawn i fyned i bob moddion, yn