enwedig i'r Seiat, a byddai yn rhaid i minnau fyned gyd a hwy er pelled a gwaethed y ffordd. Lawer gwaith y buom yn myned yno a'n traed yn wlybion domen. Ni byddai gwlaw nac ystorm yn attal fy Rhieni o'r capel."
"Tyfais yn fachgen tal ac iach a phan ddaethym yn bedair arddeg oed cefais fy mhrentisio am ddwy flynedd yn Saer Coed gyd ag un o'r enw John Evans, Llangefni. Wedi gorphen fy mhrentisiad bu John Evans yn daer arnaf i aros gyd ag ef i weithio o dan gyflog, a bum yn gweithio felly gyd ag ef hyd nes blinais. Dyn go galed i weithio iddo oedd John Evans megis y dengys y ffaith ganlynol. Yr oedd yn arfer a gwneud Eirch y plwy pan aethym i ato, a byddai raid i minau eu cario ar fy ngefn i'r manau yr oeddynt i fyned. Bu dyn farw o'r dwfrglwy yn Mhentre Berw, lle oddeutu pedair milltir o Langefni, a bu raid pygu yr arch oddimewn fel na ollyngai y dwfr. Yr oedd hyn yn nganol haf poeth. Wedi gorphen yr Arch, yr hwn oedd yn un o'r rhai mwyaf, dyma John Evans yn dwedyd wrthyf, Wel fachgen rhaid i ti ei gario i Bentreberw. Dos ag ef ar hyd y llwybyr gyd a glan yr afon hyd bont y Gors meddai, canys y mae y ffordd hono yn fyrach, ac yn brafiach iti fyned, nag hyd y ffordd bost. Wel Mister y mae 'r Arch yn rhy drwm i mi ei gario mor bell a hithau mor boeth, meddwn inau wrtho. Twt nac ydyw meddai yntau, yr wyt yn ddigon cryf, dos a brysia yn dy ol. Ac wedi haner gwylltio aethym, a chymerais y cortyn fyddai genym yn arfer cario yr Eirch a rhoddais ef am yr Arch ac aethym ag ef ar fy ngefn drwy ganol Llangefni hyd at y felin ddwr oedd ar lan yr Afon, ac wedi cyraedd yno aethym ar draws y Cae at yr hen lwybyr oedd ar ei glan, ac yno rhoddais yr Arch i lawr ar y llwybyr, ac yr oeddwn wedi blino yn fawr