Yn y flwyddyn 1847 aeth i Goleg y Bala, ac aeth trwy gwrs o Addysg yno. Yr oedd yn y Bala ar yr un pryd ag ef amryw wyr ieuanc ddaethant ar ol hyny yn enwog yn y weinidogaeth Annibynol,—megis,—Parchn. R. Edwards, Llandovery; Robert Lewis, Tynycoed; Price Howell, Festiniog; Dr. H. E. Thomas, Pittsburg; William Jones, India, &c.
Yn raddol daeth yn boblogaedd fel pregethwr. Fel hyn y dywed ef ei hun am ei ymadawiad o'r coleg,—
"Daeth fy amser i ben yn Athrofa'r Bala yn y flwyddyn 1851. Yr oeddwn wedi derbyn tair o Alwadau oddiwrth wahanol Eglwysi cyn gorphen fy amser yn y Bala. Bu y tair Galwad yn fy Llogell gyd a'u gilydd, am oddeutu pythefnos, cyn rhoddi attebiad i'r naill na'r llall o honynt. Yn ystod y pythefnos yna bum yn myfyrio yn ddistaw a 'dwys, ac yn dyfal barhau mewn gweddi am i'r Arglwydd arwain fy meddwl i roddi attebiad priodol. Canys yr oeddwn i wedi bod trwy yr holl amser yn methu penderfynu i ba un o'r Galwadau y rhoddwn Attebiad cadarnhaol. Gallaf ddywedyd heddyw mai dyna un o'r adegau mwyaf pwysig a fu ar fy meddwl yn ystod fy holl oes. Ond o'r diwedd daeth yr amser i fyny, ac yr oedd yn rhaid i mi roddi attebiad cadarnhaol i'r naill Alwad neu y llall. Pan aethym atti i ysgrifenu yr oedd y fath betrusdod yn fy meddwl fel yr ysgrifenais attebiad cadarnhaol i bob un o'r tair Galwad. Rhoddais y tri attebiad yn fy llogell, ac aethym fy hun tua'r Llythyrdy yn y Bala, gan weddio yn yn daerach, daerach, ar i Dduw fy nhadau roddi ei sel gymeradwyol ar fy ngwaith yn atteb. Sefais gerllaw y Llythyrdy gan ocheneidio, a phenderfynais y rhoddwn y llythyr cyntaf y