Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/181

Gwirwyd y dudalen hon

rhoddwn fy llaw arno yn y Llythyrdy. Ac erbyn i mi edrych y ddau lythyr oedd ar ol yn fy llogell gwelwn mai yr Alwad i Eglwysi Bagillt a Flint oeddwn wedi atteb yn Gadarnhaol. Ac yno yr aethym. Yr oedd yr addewid i mi am gyflog am fy llafur yn llawer uwch yn yr Eglwysi eraill, ond i Bagillt a Flint yr aethym; ac os oedd y Cyflog yn fychan mewn arian yr oedd bendith y Celwrn Blawd yn gwneud y bwlch i fyny, fel na bum mewn eisieu ddim daioni drwy y blynyddoedd y bum yno. Hwyrach fod llawer o weinidogion yn fyw yn awr wyr am fendith y Celwrn Blawd yn gystal a minau."

Cynhaliwyd y Cyfarfod iw neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn Bagillt a Flint ar y 3ydd a'r 4yd o Fehefin 1851 a cheir yr hanes fel y canlyn yn y Dysgedydd Gorphenaf 1851,—

"Y noswaith gyntaf yn Bagillt pregethodd y Parch. W. Griffith, Caergybi a'r Parch. M. Jones, Bala. Ar yr un pryd yn Flint pregethodd y Parch. J. Jones, Sion a'r Parch T. Edwards, Ebenezer. Bore dranoeth yn Bagillt dechreuwyd gan y Parch. J. Griffith, Bwcle. Eglurwyd ac amddiffynwyd y drefn Gynulleidfaol o lywodraeth Eglwysig gan y Parch. M. Lewis, Treffynon. Gofynwyd yr holiadau gan y Parch T. Edwards, Ebenezer, diweddar Weinidog y brawd ieuane, y rhai a attebwyd er boddlonrwydd i bawb. Gweddiodd y Parch W. Griffith, Caergybi, am fendith yr Arglwydd ar y gwaith pwysig a gymerodd le. Traddodwyd y Cyngor i'r gweinidog ieuanc gan ei ddiweddar athraw y Parch. M. Jones, Bala; ac i'r Eglwys gan y Parch H. Pugh, Mostyn. Terfynwyd y Cyfarfod trwy weddi gan y Parch. O. Owens, Rhesycae. Am 2 pregethodd y Parch. J. Griffith, Bwcle, a'r Parch. W. Griffith, Caergybi. Am 7 yn y Capel