Cynulleidfaol pregethodd y Parch. W. Lloyd, Wern, a'r Parch T. Edwards, Ebenezer. Ar yr un pryd yn ngapel y brodyr Wesleyaidd pregethodd y Parch. T. B. Morris, Rhyl a'r Parch. W. Parry, Llanarmon."
Ni byddai allan o le i nodi yma y rhan olaf o'r alwad fel y gallo y wlad weled y gwelliant mawr sydd yn bod yn nghynhaliaeth y weinidogaeth. Dywed y 73 aelodau oedd yn. Bagillt a'r 37 oedd yn Flint eu bod yn ymrwymo i wneuthur a allom er eich cynhaliaeth a'ch cysur yn mhob ystyr. Y 'swm yr ydym yn ei addaw yn bresenol ydyw Deg punt ar hugain yn Flynyddol. Ionawr 1851.
Bu yn bur llwyddianus yn Bagillt a Flint, a thra yno cliriodd y ddyled ar gapel Bagillt, a sicrhaodd dir i roi Capel newydd arno yn Flint.
Yn ei berthynas ai arhosiad yn Bagillt mae ganddo y nodiad canlynol,—
"Wedi dyfod i sefydlu yn Bagillt gwelais fy mod wedi dyfod i aros i ganol maesydd rhyfeloedd OWAIN GWYNEDD. Ac un o'r pethau cyntaf a wnaethym oedd ceisio dyfod yn hyddysg yn hanes y gwr mawr hwnw. Fodd bynag wrth ddarllen hanes Owain penderfynais gyfansoddi yr awdl sydd yn y Gyfrol a gyhoeddais. Cyfansoddais hi oll yn fy oriau hamddenol, a hyny yn hollol yn annghysylltiedig ag unrhyw wobr. Gan y byddai fy nheithiau Gweinidogaethol cyntaf yn fy rhwymo i fyned drwy lawer o hen faesydd rhyfeloedd OWAIN cyfansoddwyd llawer o'r awdl ar y crwydriadau hyny, ac mae yn y Llyfr yn hollol fel yr Ysgrifenwyd hi ar y prydiau crybwylledig."
Erbyn hyn yr oedd ei glod fel pregethwr a dawn newydd yn ymledu, a'r galwadau am ei wasanaeth yn amlhau. Yn Chwefror 1852 derbyniodd Alwad daer i ddod yn weinidog i'r