Eglwys yn Great Jackson Street, Manchester, yr hon ar ol dwys ystyriaeth a wrthodwyd ganddo. Yr oedd y cyflog addewid yn Driugain Punt.
Yn Rhagfyr 1855 derbyniodd alwad unfrydol i fyned i weinidogaethu i'r Eglwys yn Brymbo, ac addawent o Gyflog Ddeuddeg punt a Deugain gyd a chwe sul yn rhydd yn y flwyddyn. Derbyniodd yr Alwad, a gweithiodd yn egniol a llwyddianus yno. Cafodd gryn lafur gyd a'r Capel Newydd godwyd yn Brymbo gan i hwnw pan ar haner ei godi gael ei daflu i lawr gan ruthrwynt ystormus. Bu yn lafurus hefyd gyd a'r achos yn Wrexham, yr hwn pan gymerodd ef ei ofal oedd fel llin yn mygu, ond llwyddodd i symud ei safle, a chodi capel newydd yno.
Pan yn Brymbo a Gwrecsam cafodd gynig galwad i Newmarket[1], Sarn a Waenysgor, yn olynydd i Scorpion a chynygient o Gyflog Haner can punt a thy; ond gwrthododd hi.
Yn Mehefin 1862 cafodd Alwad Unol o Eglwys Bethesda Arfon, ac addawent o Gyflog Gant a haner. Dechreuodd ar ei Weinidogaeth yn Bethesda y Sabboth cyntaf sef y 3ydd o Awst 1862. Cynhaliwyd ei Gyfarfod Sefydlu ar yr 11 a'r 12 o Hydref 1862. Y noswaeth gyntaf pregethodd Y Parch: E. Stephen, Tanymarian, oddiar Heb: 4, 14-16; a'r Parch R. Thomas, Bangor, oddiar Rhuf: 5, 8. Bore Sul pregethodd Y Parch. T. Edwards, Ebenezer, oddiar Math. 27, 3, 4; a'r Parch. H. Pugh, Mostyn, oddiar 1 Cor: 15, 58. Yn y prydnawn Parch. D. Griffith, Portdinorwic, oddiar Ioan 14, 1-3. A'r nos Parch. D. Roberts, Carnarvon, oddiar Salm 136, 23; a'r Parch. H. Pugh, Mostyn, oddiar Ioan 14, 19. Bu yn neillduol lwyddianus a phoblogaidd tra y bu yn Bethesda, a llanwodd y Capel fel nad oedd yno Sedd iw gosod yn yr holl
- ↑ Trelawnyd