Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Evan Rees (Dyfed)
ar Wicipedia





RHAGARWEINIAD.

GAN Y PARCH. E. REES, "DYFED," CAERDYDD.

PARCH E REES
YR ARCHDDERWYDD

Bu dda genyf glywed fod Cofiant y diweddar Hwfa Môn i'w gyhoeddi yn ddiymdroi. Buasai oedi yn hir yn anfantais ar lawer cyfrif. Y mae yr adgofion am dano eto yn iraidd, a'i barch yn ddwfn yn mynwes y wlad, a chylch ei hen gydnabod yn eang ac yn gynhes, fel nad oes y petrusder lleiaf yn nglyn a'r anturiaeth. Fel rheol, cyhoeddir llyfrau Cymreig mewn ofn a dychryn, a cheir achos i edifarhau mewn llwch a lludw. Ond diau genyf y ca'r Cofiant hwn dderbyniad helaeth, gan fod cymeriad y gwrthddrych yn un mor ddyddorol, ac mor llawn