PWLPUD CYMRU.
Goleuad hoff ein gwlad yw A'i goludog haul ydyw; Dyry llif ei belydr llon. Iach oleu drwy ei chalon; Daw ei lawn fad oleuni A delw nef i'n cenedl ni.
Mewn tangnefedd Am ei fawredd Y myfyrir; Ac am fwyniant Ei gryf lwyddiant Gorfoleddir.
Mewn hedd, o dan y mynyddau—uchel, Yn nghilfachoedd dreigiau, Mewn hoen y maent yn mwynhau Nefoedd yn yr ogofau. Cyd son am goethion bregethau y maent Yn y mwll gornelau; Ac hyd ffyrdd y culffyrdd cau Hwy hudant eu serchiadau. Yma eu hoff Anthemoedd—eiliant Yn nghalon mynyddoedd; Ac hyd i nef y nefoedd—hosana Y gerdd fwyn dora o'r gorddyfnderoedd. Eu cerub sydd yn caru Y don yn y dyfnder du