o addysg. Yn ychwanegol at ddyddordeb yr hanes, bydd amrywiaeth dawn yr ysgrifenwyr yn fantais i ddwyn allan holl amrywiaeth y cymeriad, fel y ceir golwg gywir ar Hwfa o bob safle ar ei fywyd. Y mae Cofiantau teilwng yn fendith i fyd. Taflant oleuni ar frwydrau peryglus bywyd, a dysgant y ffordd i esgyn i wynfyd ac anfarwoldeb. Cawn olwg ar egwyddorion yn ymddadblygu, ac yn rhoi ffurf ar gymeriad, ac arweinir y darllenydd i gasgliadau cywir am yr hyn sydd yn gwneud dyn, ac yn rhoi gwerth ar ei hanes. A dyma ddull Cymru o anrhydeddu coffadwriaeth ei phlant. Y mae ei chofgolofnau marmor yn brin, ond ei cholofnau llenyddol yn dra lluosog. Peth cyffredin yn mhlith cenhedloedd eraill yw cerfio enwau eu henwogion a phin o haiarn ac a phlwm yn y graig, a chodi cerfddelwau mewn dinasoedd a phentrefi, i gadw côf o'u tadau gerbron y byd. Ond nid yw Cymru yn enwog yn hyn, ac efallai mai prinder manteision yn y gelfyddyd yw y prif reswm am hyny. Boddlon yw ar gareg fedd, pe na byddai arni ond dwy llythyren. Bu cryn son yn ddiweddar am golofn i "Llewelyn ein Llyw olaf," ond ni enillwyd clust na chalon y genedl, oherwydd paham, aeth y drychfeddwl teilwng yn fethiant. Diau fod digon o genedlgarwch yn y wlad, ond ni fyn ddyfod i'r golwg yn y cyfeiriad hwn. Y mae ei chwaeth yn gryfach at gofgolofnau llenyddol—at ddarluniau o fywyd, yn fwy nag at ddelwau cerfiedig.
Un o gedyrn Mon oedd Hwfa, ac nid y lleiaf o ardderchog lu yr ynys. Y mae y llecyn neillduedig hwn yn hynod yn hanes Cymru— llecyn llawn o draddodiadau, ac o adgofion cysegredig. Magodd dywysogion mewn tyddynod digon distadl, ac y mae llewyrch athrylith fyw yn aros ar eu henwau. Gall Mon ymffrostio yn ei phroffwydi, ac ymfawrhau yn ei beirdd. Yno y dechreuodd Hwfa broffwydo, ac yno y dechreuodd freuddwydio ar ddihun. Cyfeillachodd lawer a natur, ac