Ein gwlad sydd heddyw yn glws
Yn gwenu dan y gwyn dês,
Eirian liw y wybren lâs
A'i llen gysgoda ein llys.
Ar loew dón araul dydd,
I riniaw yr Awenydd,—
Amlunia 'r haul melynwawr
Balasdai ar Fenai fawr!
Y Fenai werdd chwar gerddi—yn wastad
Ar glustiau 'r clogwyni,—
Ar hyawdledd ei rhedli,
Y llong a ddawnsia y lli.
Clyw o gernydd clogyrnach,
Emynau beirdd Penmaenbach—.
Clywch dwrfau clochau dirfawr
Amenau meib Penmaenmawr.
Acenau byw eu cân bêr
Ehed heibiaw hyd Aber,[1]—
Tora, ergydia gwedyn,—o'r graig draw
Lais eu holl alaw hyd Lys Llewelyn!
A'r Gogarth dros ferwawg eigion—eto
Ateb y caneuon;
O'r cynwrf, clyw'r acenion
Yn chwarau 'n Nghymydau Món.
Eilia hen Garnedd Llewelyn—ei Salm
Hefo 'r sêr a'u hemyn,—
Y gadarn Wyddfa gwedyn.
Eilia gerdd hefo 'r haul gwyn!