Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/217

Gwirwyd y dudalen hon

Ogylch erglywch erddygan—mynyddoedd
Ar loew nenoedd orielau anian!
Ac adgaine eu mwyn gydgor—luchia dân
Byw awengan i Eisteddfod Bangor.

Y Werddon heddyw a arddel—urddas
Ei cherddi aruchel,—
Am fwynhau y mydrau mel
Gwaeddi y mae pob Gwyddel.

Ac ato daw yr Yscotyn—enwog,
A'i liniau 'n noeth lymyn,—
Dychlama, dawnsia y dyn,
Dwla wrth lais y delyn.

Yn lle tinc arf hyd greigiau Arfon—serth
Ceir swn telynorion,—
Ac ar benau meinciau Môn,
Ceir alaw 'n lle cwerylon!

Yn Mangor Fawr mae cawri,
Cymrodwyr Frawdwyr o fri,—
Gwyr llawn dysg, ac Iarllon da,
Yw Gwylwyr Athen Gwalia.

Gedyrn athrawon dysgeidiaeth, enwog
Gyfranwyr gwybodaeth,—
Cyfodwch a choethwch chwaeth
Teilwng o freintiau 'n talaeth.

I deilwng ysbrydoli
Holl elfen ein hawen ni,—