Daliwn heb flinaw 'n ddiwyraw ddewrion, Dros hawliau breiniawl, dwyfawl ein defion,— Yn galonog plygwn ein gelynion, Oll yn arwyr ar faesydd llenorion,— Heb ruthiau, fel Brython,—hyd wybrenydd, Codwn ein Caerydd,—cadwn ein Coron.