Wrth droi ein golwg ar bob llaw,
I araf ddystaw dremio,
Pob peth a welir drwy'r byd hwn.
A welwn yn adfeilio.
Y pethau tlysaf yn y byd
A geir o hyd yn hacru;
Y tirf deleidion, oedd lawn byw,
Geir heddyw'n araf drengu.
Rhyw wywdra sydd yn ein trymhau
Hyd flodau'r Eden hardda';
Er hardded yw y blodau hyn,
Rhyw wyfyn sy'n eu bwyta.
Heddyw y mae'r gedrwydden gref
I'r nef yn dyrchu'i changen;
Ond i'r pridd, o'i rhwysg yn ol,
Yn raddol daw'r gedrwydden.
Y dyn a grewyd yn ei drig
Ychydig is na'r angel,—
Efe, er meddu ar bob da,
A wywa dan bob awel.
Y brenin ddawnsia yn ei lys,
Ei sang ar frys arafa;
Y tafod, ffrostia bethau hyf,
Y pryf cyn hir a'i bwyta.
Y blodau siriol blanodd Duw
Yn fyw i harddu'n gruddiau—
Maent hwythau, er mor lon eu pryd,
I gyd yn colli'u lliwiau.