Ei gweled wedi ymestyn a thewychu y mae hi, a hyny yn rhoddi iddi achos i lawenhau. Bywyd yn cyd dyfu. Nid y naill aelod yn tyfu o flaen y llall. Ond oll yn cyd dyfu.
ARWYDDION BYWYD.
Ni welodd neb Dduw erioed. Ond y mae yn dyfod i'r golwg drwy arwyddion a rhyfeddodau. Y mae bywyd y pren yn dyfod i'r golwg drwy ei wyrddlesni, ei ddail, ei flodau a'i ffrwyth. Ni welodd neb fywyd erioed ynddo ei hun, nac yn eraill. Ond daw i'r golwg drwy ei arwyddion, a dengys pa un a'i gwan a'i cryf ydyw.
BYWYD YR UN PETH YN MHAWB.
Y mae gwhaniaeth mawr rhwng lliwiau, a ffurfiau y blodau, ond yr un yw bywyd ynddynt oll. Y mae gwahaniaeth mawr yn maint y Coed, yr un yw bywyd ynddynt i gyd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill anifail a'r llall, a rhwng y naill fwystfil a'r llall, ond yr un yw y bywyd yn y naill a'r llall. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill ddyn a'r llall, ond yr un yw bywyd dynol ynddynt oll. Y mae gwahaniaeth rhwng y naill angei a'r llall, ond yr un yw y bywyd yn mhob angel.
Y mae gwahaniaeth rhwng y naill gythraul a'r llall, ond yr un yw natur bywyd pob cythraul. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill Sant a'r llall, ond yr un yw bywyd ysbrydol yn mhob Sant.