feusydd ei hun. Nid oedd lloffa yn brofedigaeth iddo, ac ni ddysgodd fyw ar lafur pobl eraill. Yr oedd yn Hwfa yn mhob peth a wnai. Meddyliai yn eang, ac ni thalodd fawr sylw i'r gelfyddyd o roi llawer mewn ychydig. Ymhelaethu oedd ei brofedigaeth. Pan godai ar ei draed, yr oedd fel dyn yn ymwregysu i deithio cyfandiroedd, a cherddai yn gryf ei anadl wedi i feidrolion eraill ddiffygio ar y daith. Sylwai ar bobpeth ar y ffordd, a gwelai dwmpathau yn tyfu yn fynyddoedd. Cymerai amser i gyfarch pob blodeuyn, ac ymgomiai a'r grug a'r ysgall ar ei lwybr. Diystyrai bob llwybr byr at ei nod, ac ymddifyrai yn hamddenol ar hyd y rhodfeydd mwyaf cwmpasog, heb ofyn cyfarwyddyd neb. Er hyny, yr oedd ei nod yn y golwg o hyd a'i gyfeiriad yntau ato, ond ni frysiai i'w gyrhaedd tra y tywynai haul ar ei feddwl. Ni theimlai un anhawsder i siarad, a'i gamp oedd tewi wedi cychwyn. Daliai ati yn hir, ac weithiau, yn "ofnadwy hwy na hir," am fod manylion distadlaf ei bwnc yn tynu ei sylw. Gallu arbenig yw hwn, a thra bendithiol yn aml; ond nid yw yn fantais i gyd mewn oes mor ddiamynedd. Oes y darluniau ydyw, a'r rhai hyny yn ddarluniau parod. Y mae edrych arnynt yn cael eu tynu, allan o'r cwestiwn. Digon yw trem frysiog ar un, ac heibio at y llall, a goreu po leiaf o egni meddwl ofynir i'w cymeryd i fewn. Anogir byrder ar bob llaw, a phethau byrion sydd yn boblogaidd yn mhob cylch. Clywsom ddywedyd gan y rhai gynt, fod y fath beth yn bod a "phleser boen"—ymgodymu a gwirioneddau cyndyn, nes eu gorchfygu a'u darostwng. Ond y mae y pleser boen, wedi rhoddi ffordd i bleser iach, hawdd ei gael, a haws ei golli. Dyna ysbryd yr Ond nis gallai Hwfa fod yn fyr, na meddwl am gefnu ar ei "dragwyddol heol." Creulondeb ag ef ei hun, ac a'i gynulleidfa, oedd ei drefnu i bregethu yn un o ddau, gan fod ei bregeth ef ei hun, fel rheol, yn ddigon i dri chyffredin. Fe'i magwyd yn nghyfnod y cewri,
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/24
Gwirwyd y dudalen hon