yw y llew, pan y gwelir ef yn y bedrolfen yn cael ei gludo drwy y wlad. Gartref y mae y dyn pan y mae yn ieuangc, oddigerth eithriad. Y mae swyn yn y gair CARTREF. Fel y mae dylanwad gan y Lloer ar lanw y mor, felly y mae dylanwad gan y gair cartref ar feddwl y dyn Ieuangc. Ceir arwydd o hyn yn Awdl Hiraeth Cymro am ei wlad, gan Cawrdaf.
"Edrychaf fi, drwy ochain—ar fwyngu
Derfyngylch y Dwyrain,—
Ond ple mae gwedd Gwynedd gain,
Bro odiaeth Ynys Brydain.
Gwely, gobenydd galed—o gerrig
I orwedd mewn syched,—
Wylaw, a'r ddwy law ar led,
Am gynes fro i'm ganed."
Peru dylanwad y gair cartref ar feddwl dyn wedi myned yn hen, fel y mynega Thomas More.
"Those evening bells, those evening bells,
How many a tale their music tells,
Of youth, and home, and that sweet time,
When last I heard their soothing chime.
Those joyous hours are past away,
And many a heart that then was gay,
Within this tomb now darkly dwells,
And hears no more those evening bells.
And so 'twill be, when I am gone,—
That tuneful peal will still ring on,
While other bards shall walk these dells,
And sing your praise, sweet evening bells."