Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/250

Gwirwyd y dudalen hon

Dengys yr Hir a Thoddaid, a'r Deuair hirion yma eto, nad yw urddas awenyddol yr Awdl ddim yn colli wrth fyned yn mlaen, ond ei fod yn dysglaerio yn gryfach

CYDFOLIANT.

Caiff ei garu
Hynaws Iesu, yn oes oesoedd;
Gan bob graddau
Rhi a llwythau yr holl ieithoedd.


Haul y wybren hylwybrawl,
Y lleuad oedd a'i llwyd wawl;
A'r Ser, anifer i ni
Olwynion o oleuni;
Llenwch holl gonglau llonydd—y deugant,
A byw foliant hefelydd.


Tan a chenllysg, cymysg certh,
Eira a rhew, tew, a'r tarth;
A'r storm fydd yn nydd ei nherth
Yn gwarau penau pob pyrth.

Y taranau terwynawl,
A chwi fellt fflamiwch ei fawl.

Dyna i ti farddoniaeth ddarllenydd, a digon o dan ynddi i doddi calon Yscotyn! Er caethed yw rheolau Hupynt, y Proest Cadwynodl, y Toddaid, a'r Deuair hirion, y mae Awen