Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/255

Gwirwyd y dudalen hon

II.
ARWYDD EIRIAU YR ORSEDD.

CADAIR TIR IARLL, yn y nawfed ganrif. "Duw a phob daioni." A oes arnom gywilydd o hyn yna?

III.

CADAIR MORGANWG. "Nid da lle gellir gwell." A oes cywilydd?

IV.

Cadair Gwynedd. "Iesu nad gamwath." A oes cywilydd arnom eu harddel?

II.
DYRCHAFU TALENTAU.

Y mae yn Nghymru dalentau. Llawer gwaith y clywsom rai yn dywedyd "CYMRU DLAWD."

Y mae hyn yna yn gelwydd. A yw Cymru yn dlawd o'r Glo, nac ydyw medd Rhuabon. A yw Cymru yn dlawd o blwm, nac ydyw medd Mynydd Mainera. A yw Cymru yn dlawd of lechi, nag ydyw medd Chwareli Llanberis, Ffestiniog, a Braich Cafn. A yw Cymru yn dlawd o dalentau, nac ydyw medd yr Eisteddfod. Pwy gododd Geirionydd i'r golwg, yr Eisteddfod.