ddwy gyfrol daclus; a gwnaeth yn ddoeth iawn eu cyhoeddi yn ei fywyd. Nis gallai neb arall ar ei oreu, wneud hyny fel yr awdwrei hun. Y mae pob bardd o fri yn cyfansoddi milltiroedd o bethau na ddymunai iddynt fod mewn casgliad o'i weithiau, ac i farnu ei deilyngdod wrthynt. Cynyrchion difyfyr i gael llonydd gan gyfeillion, a dyna ddiwedd am danynt. Ond cyhoeddwyd y rhan fwyaf o weithiau Hwfa dan ei olygiaeth ef ei hun. Ni pherthyn i mi roi barn arnynt ar hyn o bryd, gan y ceir arall yn gwneud hyny yn y Cofiant hwn. Barddonodd lawer, a bu yn dra llwyddianus mewn ymgyrchoedd peryglus. Cafodd farn uchel llenorion goreu'r genedl yn ei ddydd, ar ei allu llenyddol, ac yr oedd hyny yn dawelwch meddwl iddo, yn wyneb pob ymosodiad oddiwrth y rhai na welent ragoriaeth, ond yn yr eiddynt eu hunain a'u cyfeillion. Ei brofedigaeth yma eto oedd meithder. Canai yn hir ac yn gwmpasog, a darostyngai bobpeth at ei wasanaeth. Yr oedd ei gynllun, fel rheol, yn dra eang, a gellid cerdded drwy ganol ei faes heb weled ei derfynau. Gan ei fod yn cau cymaint o dir i fewn, prin y gallesid dysgwyl iddo ei droi i gyd yn dir gwenith, Cerddai drosto i gyd, a gwnai ei hun yn gynefin a'i holl lwybrau; ond y perygl oedd i arall dori ei galon wrth geisio ei ddilyn, a throi yn ei ol. Ar destyn a'i derfynau wedi eu nodi allan gan arall, yr oedd dan anfantais fawr, oblegid byddai ei gynllun ef yn ymestyn yn mhell dros y terfynau ar bob llaw. Cam ag ef oedd ei gyfyngu, gan fod y greadigaeth yn rhy gul iddo.
Yr oedd ei arddull hefyd yn meddu ar arbenigrwydd—yn gref, ond braidd yn drystfawr. Myn rhai nad yw arddull felly yn gydweddol a natur. Ond yr oedd yn naturiol hollol i Hwfa. Dyna nodwedd ei feddwl, a hoffder ei awen. Nid yw natur wedi gwneud pawb i ymhyfrydu yn yr un gwrthddrychau. Mewn awelon a blodeu y mae un yn byw; mae swyn i arall mewn storm a rhaiadrau.. Swn