trywenid ei ddwylaw a'i draed, y rhoddid ef i farwolaeth, y gwenid ef, ac na thorid asgwrn o hono, y byddai ei fedd gyda'r cyfoethog, ac yr adgyfodai foreu y trydydd dydd, heb weled llygredigaeth, ac yr esgynai i'r nefoedd. Llefarwyd y prophwydoliaethau hyn, a llawer eraill allasem enwi, yn ystod tair mil a haner o flynyddoedd, a hyny gan bersonau, ac ar achlysuron hollol wahanol i'w gilydd. Tybiwn fod hyn yn profi yn eglur fod yr holl ysgrifenwyr yn prophwydo o dan ddylanwad ysprydoliaeth ddwyfol.
IV.
BYWYD A MARWOLAETH CRIST YN CYSONI Y PROPHWYDOLAETHAU AM DANO.
Nid ydoedd yn ddichonadwy cysoni y prophwydoliaethau am Grist, cyn iddo ef ymddangos ar y ddaiar, ac iddo fyw, marw, adgyfodi, ac esgyn i ogoniant. Pwy fuasai yn dysgwyl y buasai y Messiah yn nodedig am ei addfwynder, a'i larieidd— dra, yn ol un brophwydoliaeth am dano, ac y buasai yn wrthrych casineb, gwawd, erlid, a marwolaeth, yn ol prophwydoliaeth arall am dano? Pwy byth ddychmygasai, mai yr hwn y prophwydodd Esiah am dano, y byddai yn wr gofidus, cynhefin a dolur, a archollid, ac a farwolaethid,— fyddai hefyd yr hwn y prophwydodd yr un Esiah am dano, na byddai diwedd ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd? Ond yn Nghrist, y mae yr holl brophwydoliaethau hyn yn cael eu cyflawnu yn berffaith.