ENW DA.
(GAN HWFA MON).
DEFNYDDIR y gair enw, weithiau, i wahaniaethu rhwng gwahanol bersonau, megys Cain ac Abel, a dyn a chythraul. "Beth Pryd arall, defnyddir y gair i osod allan gyflwr peth. yw dy enw?" ebe Iesu wrth y dyn cythreulig. Yntau a atebodd, gan ddywedyd, "Lleng yw fy enw, gan fod llawer o honom;" a byddai yr enw Lleng yn eithaf priodol i lawer un yn y dyddiau hyn, canys y mae llawer o honynt. Dynoda y gair, bryd arall, natur rhyw swydd a weinyddir. "A thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl." Arferir y gair hefyd i arwyddo rhyw fri ac anrhydedd. Dyn wedi cyflawni rhyw orchest, a thrwy hyny wedi enill iddo ei hun glod ac enw mawr. Yn yr ysgrythyrau, dynodir yr hwn y byddo ei enw wedi ei ysgrifenu yn y nefoedd, fel un yn meddu yr enw rhagoraf. Pan ddychwelodd y deg a thriugain yn ol at yr Iesu, a dywedyd wrtho fod y cythreuliaid yn ufuddhau iddynt, efe a ddywedodd wrthynt, "Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrach am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd." Yr oedd cael yr enw o ddarostwng y cythreuliaid yn beth mawr, ond yr oedd cael eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd yn beth llawer mwy. Nid yw enw da yn hawdd i'w gael. Mae pethau da yn brinion. Hawddach cael anialwch o ddrain, na chael gardd o flodau, a chael traeth o laid na chael blwch o berlau. Felly hawddach yw cael lleng o enwau drwg na chael un enw da. Cyn cwymp Adda, da oedd pob peth yn y byd; ond wedi